Legislation – The Health Protection (Coronavirus, International Travel) (Wales) (Amendment) (No. 3) Regulations 2020
Which version?
Latest available (Revised)
Original (As enacted)
- Previous: Signature
- Next
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/574 (Cy. 132)) (y “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol”). Diwygiwyd y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn flaenorol gan:
-
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020 (O.S. 2020/595) (Cy. 136);
-
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/714) (Cy. 160);
-
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/726) (Cy. 163); a
-
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 (O.S. 2020/804) (Cy. 177).
Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn gosod gofynion ar bersonau sy’n dod i Gymru ar ôl bod dramor. Maent yn cynnwys gofyniad i bersonau sy’n cyrraedd Cymru ynysu am gyfnod i’w bennu yn unol â’r Rheoliadau. Mae gofynion y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn ddarostyngedig i eithriadau, ac mae categorïau penodol o bersonau wedi eu hesemptio rhag gorfod cydymffurfio. Nid yw’n ofynnol i bersonau sy’n dod i Gymru ynysu ar ôl bod mewn un neu ragor o’r gwledydd a restrir yn Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol. Cyfeirir at y gwledydd a’r tiriogaethau a restrir yn Atodlen 3 fel “gwledydd a thiriogaethau esempt”.
Mae rheoliad 3 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol i ychwanegu Estonia, Latfia, Saint Vincent a’r Grenadines, Slofacia a Slofenia at y rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt yn Atodlen 3.
Mae rheoliadau 4 a 5 yn gwneud darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â’r newid yn statws y gwledydd fel gwledydd esempt. Mae’r rheoliadau hyn yn ymdrin â meysydd a all fod yn destun amheuaeth o ran effaith y diwygiadau a wneir gan reoliad 3 ar weithredu’r gofynion i ynysu a osodir gan y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.
Mae rheoliad 4 yn gymwys pan fo person eisoes yng Nghymru ac yn ddarostyngedig i ofyniad ynysu ar y pwynt y mae’r diwygiadau yn rheoliad 3 yn cael effaith.
Mewn achos o’r fath, mae rheoliad 4 yn cadarnhau nad yw ychwanegu’r gwledydd a restrir yn rheoliad 3 at Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn cyfyngu ar y gofyniad i’r person ynysu; bydd y person yn dal i orfod ynysu tan ddiwedd y cyfnod ynysu fel y’i pennwyd yn wreiddiol pan gyrhaeddodd y person Gymru.
Mae rheoliad 5 yn gymwys pan fo person yn cyrraedd Cymru ar 31 Gorffennaf 2020 neu wedi hynny ar ôl bod yn un o’r gwledydd a restrir yn rheoliad 3 yn ystod y 14 o ddiwrnodau cyn iddo gyrraedd Cymru.
Mewn achos o’r fath, at ddiben pennu a yw’r person yn ddarostyngedig i ofyniad i ynysu o dan y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, mae’r cwestiwn ynghylch a yw’r person wedi cyrraedd Cymru o wlad neu diriogaeth nad yw’n esempt, neu ar ôl bod mewn gwlad neu diriogaeth o’r fath, i’w bennu drwy gyfeirio at statws y wlad pan oedd y person yno ddiwethaf.
Mae hyn yn golygu os yw person yn gadael gwlad a restrir yn rheoliad 3 cyn 31 Gorffennaf 2020, ac yna’n cyrraedd Cymru o fewn 14 o ddiwrnodau (a hynny ar 31 Gorffennaf 2020 neu wedi hynny), caiff y person ei drin, at ddibenion y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, fel pe bai wedi cyrraedd o wlad neu diriogaeth nad yw’n esempt, neu fel pe bai wedi cyrraedd ar ôl bod mewn gwlad neu diriogaeth o’r fath.
Mae rheoliad 6 yn diwygio’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol er mwyn hepgor Lwcsembwrg o’r rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt.
Mae rheoliad 7 yn gwneud darpariaeth drosiannol sy’n ymwneud â’r newid yn statws Lwcsembwrg. Os yw person yn cyrraedd Cymru ar 31 Gorffennaf 2020 neu wedi hynny ar ôl bod yn Lwcsembwrg ddiwethaf cyn y dyddiad hwnnw ac o fewn 14 o ddiwrnodau o gyrraedd Cymru, mae’r person i’w drin at ddibenion rheoliadau 7(1) ac 8(1) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol fel pe bai wedi cyrraedd o wlad neu diriogaeth nad yw’n esempt, neu fel pe bai wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth o’r fath. Felly, gall y person fod yn ddarostyngedig i ofynion ynysu o dan y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.
Mae rheoliad 8 yn ychwanegu digwyddiadau a gornestau pellach at y rhestr o ddigwyddiadau chwaraeon yn Atodlen 4 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.
Yn unol â rheoliad 10(4) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, caniateir i berson y byddai fel arall yn ofynnol iddo ynysu yn unol â rheoliad 7 neu 8 o’r Rheoliadau hynny adael y fangre y mae’n ynysu ynddi i gystadlu etc. yn y digwyddiadau chwaraeon hyn.
Mae rheoliad 9 o’r Rheoliadau hyn yn cywiro’r diffiniad o “trwyddedai carthffosiaeth” yn Atodlen 2 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.