Legislation – The Health Protection (Coronavirus Restrictions) (No. 2) (Wales) Regulations 2020
Newidiadau i ddeddfwriaeth:
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.![]()
Changes to Legislation
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i’w gweld yn yr adran ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Os nad yw’r effeithiau hynny wedi’u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi’u rhestru ochr yn ochr â’r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen ‘mwy’ i agor y newidiadau a’r effeithiau sy’n berthnasol i’r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.
Changes and effects yet to be applied to Section 21:
- Sch. 4A para. 1(h)(i) inserted by S.I. 2020/1043 reg. 2(2)
- Regulations revoked by S.I. 2020/1149 reg. 34(1)(a)
- reg. 2A(3A)(a) words substituted by S.I. 2020/1079 reg. 2(2)
Changes and effects yet to be applied to the whole Instrument associated Parts and Chapters:
Whole provisions yet to be inserted into this Instrument (including any effects on those provisions):
- Sch. 4A para. 1(h)(i) inserted by S.I. 2020/1043 reg. 2(2)
- reg. 2A(3A)(a) words substituted by S.I. 2020/1079 reg. 2(2)
RHAN 5Gorfodi
Hysbysiadau cosb benodedig21.
(1)
Caiff swyddog gorfodaeth ddyroddi hysbysiad cosb benodedig i unrhyw un y mae’r swyddog yn credu’n rhesymol—
(a)
ei fod wedi cyflawni trosedd dan y Rheoliadau hyn, a
(b)
ei fod yn 18 oed neu drosodd.
(2)
Hysbysiad yw hysbysiad cosb benodedig sy’n cynnig i’r person y’i dyroddir iddo y cyfle i gael ei ryddhau o unrhyw atebolrwydd am euogfarn am y drosedd drwy dalu cosb benodedig i—
(a)
awdurdod lleol, neu
(b)
person a ddynodir gan Weinidogion Cymru at ddibenion cael taliad o dan y rheoliad hwn,
fel y caiff yr hysbysiad ei bennu.
(3)
Caiff Gweinidogion Cymru eu dynodi hwy eu hunain o dan baragraff (2)(b).
(4)
(5)
Pan fo awdurdod lleol wedi ei bennu yn yr hysbysiad rhaid iddo fod yn awdurdod (neu yn ôl y digwydd, unrhyw un o’r awdurdodau) yr ardal yr honnir bod y drosedd wedi ei chyflawni ynddi.
(6)
Pan ddyroddir hysbysiad i berson o dan y rheoliad hwn mewn cysylltiad â throsedd—
(a)
ni chaniateir dwyn achos am y drosedd cyn diwedd y cyfnod 28 o ddiwrnodau yn dilyn dyddiad dyroddi’r hysbysiad;
(b)
ni chaniateir euogfarnu’r person o’r drosedd os yw’r person yn talu’r gosb benodedig cyn diwedd y cyfnod hwnnw.
(7)
Rhaid i hysbysiad cosb benodedig—
(a)
rhoi manylion rhesymol fanwl am yr amgylchiadau yr honnir eu bod yn creu’r drosedd;
(b)
datgan y cyfnod pryd (oherwydd paragraff (6)(a)) na ddygir achos am y drosedd;
(c)
pennu swm y gosb benodedig;
(d)
datgan enw a chyfeiriad y person y caniateir talu’r gosb benodedig iddo;
(e)
pennu dulliau o dalu a ganiateir.
(8)
Rhaid i’r swm a bennir o dan baragraff (7)(c) fod yn £60 (yn ddarostyngedig i baragraffau (9) ac (10)).
(9)
Caiff hysbysiad cosb benodedig bennu, os telir £30 cyn diwedd y cyfnod o 14 o ddiwrnodau yn dilyn dyddiad yr hysbysiad, mai dyna yw swm y gosb benodedig.
(10)
Os yw’r person y dyroddir hysbysiad cosb benodedig iddo eisoes wedi derbyn hysbysiad cosb benodedig o dan y Rheoliadau hyn—
(a)
nid yw paragraff (9) yn gymwys, a
(b)
rhaid i’r swm a bennir fel y gosb benodedig fod—
(i)
yn £120 yn achos yr ail hysbysiad cosb benodedig a dderbynnir;
(ii)
yn £240 yn achos y trydydd hysbysiad cosb benodedig a dderbynnir;
(iii)
yn £480 yn achos y pedwerydd hysbysiad cosb benodedig a dderbynnir;
(iv)
yn £960 yn achos y pumed hysbysiad cosb benodedig a dderbynnir;
(v)
yn £1920 yn achos y chweched hysbysiad cosb benodedig a dderbynnir, ac unrhyw hysbysiad cosb benodedig olynol.
(11)
(12)
Beth bynnag y bo unrhyw ddull arall a bennir o dan baragraff (7)(e), caniateir talu cosb benodedig drwy dalu ymlaen llaw a phostio llythyr sy’n cynnwys swm y gosb (mewn arian parod neu fel arall) i’r person y nodir ei enw o dan baragraff (7)(d) i’r cyfeiriad a nodir.
(13)
Pan fo llythyr yn cael ei anfon fel a grybwyllir ym mharagraff (12), ystyrir bod taliad wedi ei wneud ar yr adeg y byddai’r llythyr hwnnw wedi cael ei ddanfon yn nhrefn arferol y post.
(14)
Mewn unrhyw achos, mae tystysgrif—
(a)
sy’n honni ei bod wedi ei llofnodi gan neu ar ran y person sydd â chyfrifoldeb am faterion ariannol—
(i)
yr awdurdod lleol, neu
(ii)
y person a ddynodir o dan baragraff (2)(b),
a bennir yn yr hysbysiad cosb benodedig y mae’r achos yn ymwneud ag ef, a
(b)
sy’n datgan bod y taliad am y gosb benodedig wedi dod i law, neu heb ddod i law, erbyn y dyddiad a bennir yn y tystysgrif,
yn dystiolaeth o’r ffeithiau a ddatgenir.