Legislation – The Health Protection (Coronavirus Restrictions) (No. 2) (Wales) Regulations 2020

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i’w gweld yn yr adran ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Os nad yw’r effeithiau hynny wedi’u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi’u rhestru ochr yn ochr â’r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen ‘mwy’ i agor y newidiadau a’r effeithiau sy’n berthnasol i’r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.


View outstanding changes

Changes and effects yet to be applied to Section 20:

Changes and effects yet to be applied to the whole Instrument associated Parts and Chapters:

Whole provisions yet to be inserted into this Instrument (including any effects on those provisions):

RHAN 5Gorfodi

Troseddau a chosbau20.

(1)

Mae person sydd—

(a)

heb esgus rhesymol, yn torri gofyniad yn rheoliad 6(1), 7(1), F1… 10(1) neu (4), 11(4), F2neu 12(2), neu

(b)

yn torri gofyniad yn rheoliad 14(1),

yn cyflawni trosedd.

(2)

Mae person sy’n rhwystro, heb esgus rhesymol, unrhyw berson rhag cyflawni swyddogaeth o dan y Rheoliadau hyn yn cyflawni trosedd.

(3)

Mae person sydd, heb esgus rhesymol—

(a)

yn torri cyfarwyddyd a roddir gan swyddog gorfodaeth o dan reoliad 18(4), (5)(a) neu (6), neu

(b)

yn methu â chydymffurfio â hysbysiad cydymffurfio a roddir gan swyddog gorfodaeth o dan reoliad 18(1),

yn cyflawni trosedd.

(4)

Mae trosedd o dan y Rheoliadau hyn i’w chosbi ar euogfarn ddiannod drwy ddirwy.

(5)

Mae adran 24 o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 198427 yn gymwys mewn perthynas â throsedd o dan y rheoliad hwn fel petai’r rhesymau yn is-adran (5) yn cynnwys—

(a)

i gynnal iechyd y cyhoedd;

(b)

i gynnal trefn gyhoeddus.

(6)

Os profir bod trosedd o dan baragraff (1) wedi ei chyflawni gan gorff corfforedig—

(a)

wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad swyddog i’r corff hwnnw, neu

(b)

i’w phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran y swyddog hwnnw,

mae’r swyddog (yn ogystal â’r corff corfforedig) yn euog o’r drosedd ac yn agored i gael ei erlyn, i gael achos yn ei erbyn a’i gosbi yn unol â hynny.

(7)

Ym mharagraff (6), ystyr “swyddog”, mewn perthynas â chorff corfforedig, yw cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i’r corff corfforedig.

(8)

Caniateir i achos am drosedd o dan y Rheoliadau hyn yr honnir ei bod wedi ei chyflawni gan bartneriaeth gael ei ddwyn yn enw’r bartneriaeth yn hytrach nag yn enw unrhyw un neu ragor o’r partneriaid.

(9)

Caniateir i achos am drosedd o dan y Rheoliadau hyn yr honnir ei bod wedi ei chyflawni gan gorff anghorfforedig ac eithrio partneriaeth gael ei ddwyn yn enw’r corff yn hytrach nag yn enw unrhyw un neu ragor o’i aelodau ac, at ddibenion unrhyw achos o’r fath, mae unrhyw reolau llys sy’n ymwneud â chyflwyno dogfennau yn cael effaith fel pe bai’r corff hwnnw yn gorff corfforedig.

(10)

Mae adran 33 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 192528 ac Atodlen 3 i Ddeddf Llysoedd Ynadon 198029 yn gymwys mewn achos am drosedd a ddygir yn erbyn partneriaeth neu gymdeithas anghorfforedig ac eithrio partneriaeth fel y maent yn gymwys i gorff corfforedig.

(11)

Mae dirwy a osodir ar bartneriaeth ar ei heuogfarnu o drosedd o dan y Rheoliadau hyn i’w thalu o gronfeydd y bartneriaeth.

(12)

Mae dirwy a osodir ar gymdeithas anghorfforedig ac eithrio partneriaeth ar ei heuogfarnu o drosedd o dan y Rheoliadau hyn i’w thalu o gronfeydd y gymdeithas.