Legislation – The Education (Notification of School Term Dates) (Wales) (Amendment) (Coronavirus) Regulations 2020
Diwygio Rheoliadau Addysg (Hysbysu am Ddyddiadau Tymhorau Ysgol) (Cymru) 20142.
Mae rheoliad 4 o Reoliadau Addysg (Hysbysu am Ddyddiadau Tymhorau Ysgol) (Cymru) 20142 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—
(a)
daw’r ddarpariaeth bresennol yn baragraff (1);
(b)
ar ddechrau paragraff (1) mewnosoder “Yn ddarostyngedig i baragraff (2),”;
(c)
ar ôl paragraff (1) mewnosoder—
“(2)
Ar gyfer y flwyddyn ysgol 2022-2023, rhaid i awdurdod lleol hysbysu Gweinidogion Cymru am yr holl ddyddiadau tymhorau y penderfynwyd arnynt ar gyfer yr ysgolion a gynhelir yn ei ardal ar gyfer y flwyddyn ysgol honno heb fod yn hwyrach na 31 Rhagfyr 2020.”