Legislation – The Health Protection (Coronavirus, Public Health Information for Persons Travelling to Wales etc.) Regulations 2020
RHAN 2Gofynion i ddarparu gwybodaeth i deithwyr
Darparu gwybodaeth yn ystod taith4.
(1)
Rhaid i weithredwr gwasanaeth teithwyr rhyngwladol sicrhau y darperir pob teithiwr ar y llestr neu’r awyren â’r datganiad a nodir yn yr Atodlen yn ystod y daith i’r porthladd yng Nghymru.
(2)
Rhaid darparu’r datganiad ar lafar yn Gymraeg, yn Saesneg ac mewn iaith a gydnabyddir yn swyddogol yn y wlad yr ymadawyd â hi.