Legislation – The Health Protection (Coronavirus, Public Health Information for Persons Travelling to Wales etc.) Regulations 2020
RHAN 1Cyffredinol
Dehongli2.
Yn y Rheoliadau hyn—
mae i “ardal deithio gyffredin” yr ystyr a roddir i “common travel area” yn adran 1(3) o Ddeddf Mewnfudo 19712;
ystyr “coronafeirws” (“coronavirus”) yw coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2);
ystyr “gwasanaeth teithwyr rhyngwladol” (“international passenger service”) yw gwasanaeth masnachol y mae teithwyr yn ei ddefnyddio i deithio ar lestr neu awyren o’r tu allan i’r ardal deithio gyffredin i borthladd yng Nghymru;
ystyr “llestr” (“vessel”) yw pob ddisgrifiad o lestr a ddefnyddir i fordwyo (gan gynnwys hofrenfad o fewn ystyr “hovercraft” yn Neddf Hofrenfadau 19683) sy’n 24 o fetrau neu fwy o hyd;
ystyr “person awdurdodedig” (“authorised person”) yw—
(a)
mewn perthynas â theithwyr sy’n cyrraedd ar lestr, yr Ysgrifennydd Gwladol;
(b)
mewn perthynas â theithwyr sy’n cyrraedd ar awyren, yr Awdurdod Hedfan Sifil4;
mae “porthladd” (“port”) yn cynnwys unrhyw faes awyr, maes hofrenyddion neu borthladd môr.