Legislation – The Health Protection (Coronavirus, Public Health Information for Persons Travelling to Wales etc.) Regulations 2020

RHAN 3Troseddau, cosbau ac erlyniadau

Troseddau6.

(1)

Mae person sy’n torri gofyniad yn rheoliad 3(1) neu (3), neu reoliad 4 yn cyflawni trosedd.

(2)

Mae’n amddiffyniad i gyhuddiad o gyflawni’r drosedd o dorri’r gofyniad yn rheoliad 4 i ddangos bod gan y person esgus rhesymol dros dorri’r gofyniad.

(3)

Mae person sy’n cyflawni trosedd o dan baragraff (1) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy.

Hysbysiadau cosb benodedig7.

(1)

Caiff person awdurdodedig ddyroddi hysbysiad cosb benodedig i unrhyw berson (“P”) y mae’r person awdurdodedig yn credu’n rhesymol ei fod wedi cyflawni trosedd o dan reoliad 6(1).

(2)

Mae hysbysiad cosb benodedig yn hysbysiad sy’n cynnig i P y cyfle i gael ei ryddhau o unrhyw atebolrwydd am euogfarn am y drosedd drwy dalu cosb benodedig i—

(a)

Gweinidogion Cymru, neu

(b)

person a ddynodir gan Weinidogion Cymru at ddibenion cael taliad o dan y rheoliad hwn.

(3)

Pan fo hysbysiad wedi ei ddyroddi o dan baragraff (1) mewn cysylltiad â throsedd—

(a)

ni chaniateir dwyn unrhyw achos am y drosedd cyn diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y dyroddir yr hysbysiad;

(b)

ni chaniateir euogfarnu P o’r drosedd os yw P yn talu’r gosb benodedig cyn diwedd y cyfnod hwnnw.

(4)

Rhaid i hysbysiad cosb benodedig—

(a)

disgrifio’r amgylchiadau yr honnir eu bod yn ffurfio’r drosedd,

(b)

datgan y cyfnod pan (oherwydd paragraff (3)(a)) na ddygir achos am y drosedd,

(c)

pennu swm y gosb benodedig,

(d)

datgan enw a chyfeiriad y person y caniateir talu’r gosb benodedig iddo, ac

(e)

pennu dulliau o dalu a ganiateir.

(5)

Rhaid i swm y gosb benodedig a bennir o dan baragraff (4)(c) fod yn £4,000.

(6)

Mewn unrhyw achos, mae tystysgrif—

(a)

sy’n honni ei bod wedi ei llofnodi gan neu ar ran—

(i)

Gweinidogion Cymru, neu

(ii)

person a ddynodir gan Weinidogion Cymru o dan baragraff (2)(b), a

(b)

sy’n datgan i’r taliad am y gosb benodedig ddod i law, neu na ddaeth i law, erbyn y dyddiad a bennir yn y dystysgrif,

yn dystiolaeth o’r ffeithiau a ddatgenir.

Erlyniadau8.

Ni chaniateir dwyn achos am drosedd o dan y Rheoliadau hyn ac eithrio gan y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus neu berson awdurdodedig.