Legislation – The Payments to Farmers (Controls and Checks) (Wales) (Coronavirus) Regulations 2020

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli1.

(1)

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Taliadau i Ffermwyr (Rheolaethau a Gwiriadau) (Cymru) (Coronafeirws) 2020.

(2)

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 14 Mehefin 2020.

(3)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(4)

Yn y Rheoliadau hyn—

mae “blwyddyn hawlio 2020” i’w ddehongli yn unol ag adran 1(7) o Ddeddf Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol) 20202;
ystyr “Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 809/2014” (“Commission Implementing Regulation (EU) No. 809/2014”) yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 809/2014 dyddiedig 17 Gorffennaf 2014 sy’n gosod rheolau ar gyfer cymhwyso Rheoliad (EU) Rhif 1306/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran y system weinyddu a rheoli integredig, mesurau datblygu gwledig a thrawsgydymffurfio3, fel y mae’n ffurfio rhan o gyfraith ddomestig yn rhinwedd adran 1 o Ddeddf Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol) 2020.
3

Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 809/2014 dyddiedig 17 Gorffennaf 2014 sy’n gosod rheolau ar gyfer cymhwyso Rheoliad (EU) Rhif 1306/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran y system weinyddu a rheoli integredig, mesurau datblygu gwledig a thrawsgydymffurfio (OJ Rhif L 227, 31.7.2014, t. 69). I’r graddau y mae’n ymwneud â’r cynlluniau taliadau uniongyrchol ar gyfer blwyddyn hawlio 2020, mae Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 809/2014 wedi ei ymgorffori mewn cyfraith ddomestig yn rhinwedd adran 1 o Ddeddf Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol) 2020. Mae Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 809/2014 wedi ei ddiwygio gan reoliad 14 o Reoliadau Ariannu, Rheoli a Monitro Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/90). Mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.