Legislation – The Payments to Farmers (Controls and Checks) (Wales) (Coronavirus) Regulations 2020

Rheoliadau Taliadau i Ffermwyr (Rheolaethau a Gwiriadau) (Cymru) (Coronafeirws) 2020
2020 Rhif 531 (Cy. 125)
Amaethyddiaeth, Cymru

Rheoliadau Taliadau i Ffermwyr (Rheolaethau a Gwiriadau) (Cymru) (Coronafeirws) 2020

Gwnaed
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan Erthygl 62(2)(a) a (b) o Reoliad (EU) Rhif 1306/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 17 Rhagfyr 2013 ar ariannu, rheoli a monitro’r polisi amaethyddol cyffredin1, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
1

Rheoliad (EU) Rhif 1306/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 17 Rhagfyr 2013 ar ariannu, rheoli a monitro’r polisi amaethyddol cyffredin ac sy’n diddymu Rheoliadau’r Cyngor (EEC) Rhif 352/78, (EC) Rhif 165/94, (EC) Rhif 2799/98, (EC) Rhif 814/2000, (EC) Rhif 1290/2005 ac (EC) Rhif 485/2008 (OJ Rhif L 347, 20.12.2013, t. 549). Mae Deddf Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol) 2020 (p. 2) yn darparu’r sail gyfreithiol ar gyfer parhau i dalu taliadau uniongyrchol i ffermwyr ar gyfer blwyddyn hawlio 2020 (roedd Erthygl 137 o’r Cytundeb ar Ymadawiad Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon â’r Undeb Ewropeaidd (19 Hydref 2019) yn darparu nad yw Rheoliad (EU) Rhif 1307/2013 yn gymwys i’r DU ar gyfer blwyddyn hawlio 2020). Roedd Rheoliad (EU) Rhif 1307/2013 yn sefydlu’r rheolau ar gyfer taliadau uniongyrchol i ffermwyr. I’r graddau y mae’n ymwneud â chynlluniau taliadau uniongyrchol y PAC ar gyfer blwyddyn hawlio 2020, mae Rheoliad (EU) Rhif 1306/2013 wedi ei ymgorffori mewn cyfraith ddomestig yn rhinwedd adran 1 o Ddeddf Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol) 2020. Mae Erthygl 62(2) o Reoliad (EU) Rhif 1306/2013 wedi ei diwygio gan reoliad 7(4) o Reoliadau Ariannu, Rheoli a Monitro Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/90). Yn benodol, mae’r swyddogaeth yn Erthygl 62(2) wedi ei diwygio fel ei bod yn arferadwy gan Weinidogion Cymru (gweler Erthygl 2(1)(k) ac (m) o Reoliad (EU) Rhif 1306/2013 am y diffiniadau o “relevant authority” ac “appropriate authority”). Mae diwygiadau eraill i Reoliad (EU) Rhif 1306/2013 ond nid ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.