Legislation – The Regulated Services (Annual Returns) (Wales) (Amendment) (Coronavirus) Regulations 2020

Diwygiadau i Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Datganiadau Blynyddol) (Cymru) 20174.

Yn lle rheoliad 10 (terfyn amser ar gyfer cyflwyno datganiadau blynyddol) rhodder—

“Terfyn amser ar gyfer cyflwyno datganiadau blynyddol“10.

(1)

Rhaid i ddatganiad blynyddol sy’n ymwneud ag unrhyw un neu ragor o’r blynyddoedd ariannol 2018-19, 2019-20 neu 2020-21 gael ei gyflwyno i Weinidogion Cymru heb fod yn hwyrach na 26 Mai 2021.

(2)

Rhaid i ddatganiad blynyddol sy’n ymwneud â blwyddyn ariannol ddilynol gael ei gyflwyno i Weinidogion Cymru o fewn 56 o ddiwrnodau i ddiwedd y flwyddyn ariannol y mae’n ymwneud â hi.”