Legislation – The Regulated Services (Annual Returns) (Wales) (Amendment) (Coronavirus) Regulations 2020

NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan bwerau a roddir i Weinidogion Cymru gan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (dccc 2) (“y Ddeddf”). Maent yn diwygio gofyniad penodol a osodir ar ddarparwyr gofal cymdeithasol cofrestredig ac maent wedi eu gwneud mewn ymateb i ledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae Rhan 1 o’r Ddeddf yn gosod gofynion ar ddarparwyr y gwasanaethau gofal cymdeithasol a reoleiddir gan y Ddeddf. Maent yn cynnwys gofyniad yn adran 10 i gyflwyno datganiad blynyddol i Weinidogion Cymru. Mae Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Datganiadau Blynyddol) (Cymru) 2017 (O.S. 2017/1097) (Cy. 277)) (“y Rheoliadau Datganiadau Blynyddol”) yn darparu manylion pellach am y datganiadau blynyddol. Maent yn cynnwys darpariaeth a wneir o dan adran 10(4) ynghylch y dyddiadau erbyn pryd y mae rhaid cyflwyno’r datganiadau.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan adran 10(4) o’r Ddeddf ac maent yn diwygio rheoliadau 9A a 10 o’r Rheoliadau Datganiadau Blynyddol. Mae’r rheoliadau hynny yn ymwneud â’r dyddiad erbyn pryd y mae rhaid cyflwyno datganiadau blynyddol. Effaith y diwygiadau yw bod rhaid i ddarparwyr pob math o wasanaethau rheoleiddiedig gyflwyno datganiadau blynyddol sy’n ymwneud â’r blynyddoedd ariannol 2018-19, 2019-20 a 2020-21 heb fod yn hwyrach na 26 Mai 2021. Yn flaenorol, roedd yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau sydd wedi eu cofrestru i ddarparu gwasanaeth cartref gofal, gwasanaeth llety diogel, gwasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd neu wasanaeth cymorth cartref gyflwyno eu set gyntaf o ddatganiadau blynyddol heb fod yn hwyrach na 31 Rhagfyr 2020.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.