Legislation – The Common Agricultural Policy (Payments to Farmers) (Coronavirus) (Wales) Regulations 2020
Which version?
Latest available (Revised)
Original (As enacted)
Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Taliadau i Ffermwyr) (Coronafeirws) (Cymru) 2020
2020 Rhif 473 (Cy. 109)
Amaethyddiaeth, Cymru
Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Taliadau i Ffermwyr) (Coronafeirws) (Cymru) 2020
Gwnaed
Yn dod i rym
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 30 Ebrill 2020
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi1 at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19722 mewn perthynas â’r polisi amaethyddol cyffredin, ac yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan yr adran honno a thrwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan Erthygl 78(b) o Reoliad (EU) Rhif 1306/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 17 Rhagfyr 2013 ar ariannu, rheoli a monitro’r polisi amaethyddol cyffredin3, ac Erthygl 34(5) o Reoliad (EU) Rhif 1307/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 17 Rhagfyr 2013 sy’n sefydlu rheolau ar gyfer taliadau uniongyrchol i ffermwyr o dan gynlluniau cymorth o fewn fframwaith y polisi amaethyddol cyffredin4, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.