Legislation – The Local Authorities (Coronavirus) (Meetings) (Wales) Regulations 2020

RHAN 2Mynychu o bell

Mynychu o bell5.

(1)

Nid yw adran 4 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 20119 (mynychu cyfarfodydd prif gynghorau o bell) yn cael effaith mewn perthynas â chyfarfod a gynhelir cyn 1 Mai 2021.

(2)

Caniateir i gyfarfod awdurdod lleol a gynhelir cyn y dyddiad hwnnw gael ei gynnal drwy gyfrwng unrhyw offer neu gyfleuster arall sy’n galluogi personau nad ydynt yn yr un lle i siarad â’i gilydd a chael eu clywed gan ei gilydd (pa un a yw’r offer neu’r cyfleuster hefyd yn galluogi’r personau hynny i weld ei gilydd ai peidio).

(3)

O ran cyfeiriad mewn unrhyw ddeddfiad neu offeryn arall—

(a)

at berson yn mynychu cyfarfod awdurdod lleol neu’n bresennol mewn cyfarfod awdurdod lleol, mae’n cynnwys, mewn perthynas â chyfarfod a gynhelir drwy’r dulliau a ddisgrifir ym mharagraff (2), mynychu’r cyfarfod drwy ddefnyddio’r dulliau hynny;

(b)

nid yw’r lle y cynhelir cyfarfod awdurdod lleol i gael ei ddarllen fel pe bai’n gyfyngedig i un lleoliad corfforol.

(4)

Nid oes dim yn y rheoliad hwn yn cyfyngu ar bwerau awdurdod lleol i wneud rheolau sefydlog, trefniadau gweithrediaeth neu reolau eraill ynghylch cyfarfodydd a gynhelir drwy’r dulliau a ddisgrifir ym mharagraff (2).

(5)

Rhaid i awdurdod lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru at ddibenion y rheoliad hwn.