Legislation – The Health Protection (Coronavirus Restrictions) (Wales) (Amendment) Regulations 2020

Canllawiau ar gynnal pellter o 2 fetr rhwng personau5.

Ar ôl rheoliad 7 o’r prif Reoliadau mewnosoder—

“Canllawiau ar gynnal pellter o 2 fetr rhwng personau7A.

(1)

Rhaid i berson sy’n ddarostyngedig i ofyniad neu gyfyngiad yn—

(a)

rheoliad 4(1) fel y mae’n gymwys i ffreuturau yn y gweithle,

(b)

rheoliad 6(1),

(c)

rheoliad 6A(1), neu

(d)

rheoliad 7(1), (3), (4A) neu (5),

roi sylw i ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru ynghylch y camau rhesymol sydd i’w cymryd i sicrhau y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng personau.

(2)

O ran Gweinidogion Cymru—

(a)

cânt ddiwygio canllawiau a ddyroddir o dan baragraff (1), a

(b)

rhaid iddynt gyhoeddi’r canllawiau (ac unrhyw ddiwygiadau).

(3)

Caiff canllawiau o dan y rheoliad hwn gynnwys (drwy gyfeirio neu drosi) ganllawiau, codau ymarfer neu ddogfennau eraill a gyhoeddir gan berson arall (er enghraifft, cymdeithas fasnach, corff sy’n cynrychioli aelodau o ddiwydiant neu undeb llafur).”