Legislation – The Health Protection (Coronavirus Restrictions) (Wales) (Amendment) Regulations 2020

Cyfyngiadau ar fannau addoli, amlosgfeydd, mynwentydd a chanolfannau cymunedol4.

Yn rheoliad 7 o’r prif Reoliadau—

(a)

ym mharagraff (2), ar ôl “addoli”, yn y lle cyntaf y mae’n digwydd, mewnosoder “(ac eithrio rhwng dau aelod o’r un aelwyd, neu ofalwr a’r person a gynorthwyir gan y gofalwr)”;

(b)

ym mharagraff (4), ar ôl “amlosgfa”, yn y lle cyntaf y mae’n digwydd, mewnosoder “(ac eithrio rhwng dau aelod o’r un aelwyd, neu ofalwr a’r person a gynorthwyir gan y gofalwr)”;

(c)

ar ôl paragraff (4) mewnosoder—

“(4A)

Rhaid i berson sy’n gyfrifol am fynwent gymryd pob cam rhesymol i sicrhau y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng pob person mewn claddedigaeth sy’n digwydd yn y fynwent yn ystod cyfnod yr argyfwng (ac eithrio rhwng dau aelod o’r un aelwyd, neu ofalwr a’r person a gynorthwyir gan y gofalwr).”;

(d)

ym mharagraff (5)(b), ar ôl “fangre” mewnosoder “(ac eithrio rhwng dau aelod o’r un aelwyd, neu ofalwr a’r person a gynorthwyir gan y gofalwr)”;

(e)

ar ôl paragraff (5) mewnosoder—

“(6)

At ddiben y rheoliad hwn—

(a)

mae “claddu” yn cynnwys rhoi lludw person marw yn y ddaear;

(b)

mae “mynwent” yn cynnwys claddfa ac unrhyw fan arall sydd sy’n cael ei ddefnyddio i gladdu’r meirw.”

(f)

yn y pennawd, ar ôl “amlosgfeydd” mewnosoder “, mynwentydd”.