Legislation – The Health Protection (Coronavirus Restrictions) (Wales) Regulations 2020

Troseddau a chosbau12.

(1)

Mae person sydd—

(a)

heb esgus rhesymol, yn torri gofyniad yn rheoliad 4, 6, 7, 8(5) neu 9(4), neu

(b)

yn torri’r gofyniad yn rheoliad 8(1),

yn cyflawni trosedd.

(2)

Mae person sy’n rhwystro, heb esgus rhesymol, unrhyw berson rhag cyflawni swyddogaeth o dan y Rheoliadau hyn yn cyflawni trosedd.

(3)

Mae person sydd, heb esgus rhesymol, yn torri cyfarwyddyd, neu’n methu â chydymffurfio â chyfarwyddiad neu hysbysiad gwahardd, a roddir gan berson perthnasol o dan reoliad 10 yn cyflawni trosedd.

(4)

Mae trosedd o dan y Rheoliadau hyn i’w chosbi ar euogfarn ddiannod drwy ddirwy.

(5)

Mae adran 24 o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 198414 yn gymwys mewn perthynas â throsedd o dan y rheoliad hwn fel petai’r rhesymau yn is-adran (5) yn cynnwys—

(a)

i gynnal iechyd y cyhoedd;

(b)

i gynnal trefn gyhoeddus.

(6)

Os profir bod trosedd o dan baragraff (1) wedi ei chyflawni gan gorff corfforedig—

(a)

wedi ei chyflawni â chydsyniad neu ymoddefiad swyddog i’r corff hwnnw, neu

(b)

i’w phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran y swyddog hwnnw,

mae’r swyddog (yn ogystal â’r corff corfforedig) yn euog o’r drosedd ac yn agored i gael ei erlyn, i gael achos yn ei erbyn a’i gosbi yn unol â hynny.

(7)

Ym mharagraff (6), ystyr “swyddog”, mewn perthynas â chorff corfforedig, yw cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i’r corff corfforedig.

(8)

Caniateir i achos am drosedd o dan y Rheoliadau hyn yr honnir ei bod wedi ei chyflawni gan bartneriaeth gael ei ddwyn yn enw’r bartneriaeth yn hytrach nag yn enw unrhyw un neu ragor o’r partneriaid.

(9)

Caniateir i achos am drosedd o dan y Rheoliadau hyn yr honnir ei bod wedi ei chyflawni gan gorff anghorfforedig ac eithrio partneriaeth gael ei dwyn yn enw’r corff yn hytrach nag yn enw unrhyw un neu ragor o’i aelodau ac, at ddibenion unrhyw achos o’r fath, mae unrhyw reolau llys sy’n ymwneud â chyflwyno dogfennau yn cael effaith fel pe bai’r corff hwnnw yn gorff corfforedig.

(10)

Mae adran 33 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 192515 ac Atodlen 3 i Ddeddf Llysoedd Ynadon 198016 yn gymwys mewn achos am drosedd a ddygir yn erbyn partneriaeth neu gymdeithas anghorfforedig ac eithrio partneriaeth fel y maent yn gymwys i gorff corfforedig.

(11)

Mae dirwy a osodir ar bartneriaeth ar ei heuogfarnu o drosedd o dan y Rheoliadau hyn i’w thalu o gronfeydd y bartneriaeth.

(12)

Mae dirwy a osodir ar gymdeithas anghorfforedig ac eithrio partneriaeth ar ei heuogfarnu o drosedd o dan y Rheoliadau hyn i’w thalu o gronfeydd y gymdeithas.