Legislation – The Health Protection (Coronavirus Restrictions) (Wales) Regulations 2020

Gorfodi10.

(1)

Caiff person perthnasol roi hysbysiad gwahardd i berson os yw’r person perthnasol yn credu’n rhesymol—

(a)

bod y person yn torri gofyniad yn rheoliad 4, 6 neu 7, a

(b)

ei bod yn angenrheidiol ac yn gymesur rhoi’r hysbysiad gwahardd at ddiben atal y person hwnnw rhag parhau i dorri’r gofyniad.

(2)

Pan fo person perthnasol yn ystyried bod person (“P”) yn torri’r gofyniad yn rheoliad 8(1), caiff y person perthnasol—

(a)

cyfarwyddo P i ddychwelyd i’r man lle y mae’n byw;

(b)

mynd â P i’r man hwnnw.

(3)

Caiff person perthnasol sy’n arfer y pŵer ym mharagraff (2)—

(a)

cyfarwyddo P i ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau y mae’r person perthnasol yn ystyried eu bod yn angenrheidiol;

(b)

defnyddio grym rhesymol wrth arfer y pŵer hwnnw.

(4)

Pan fo P yn blentyn yng nghwmni unigolyn (“U”) a chanddo gyfrifoldeb dros y plentyn—

(a)

caiff y person perthnasol gyfarwyddo U i fynd â P i’r man lle y mae P yn byw, a

(b)

rhaid i U, i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, sicrhau bod P yn cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd neu gyfarwyddiad a roddir gan y person perthnasol i P.

(5)

At ddiben paragraff (4), mae gan U gyfrifoldeb am blentyn os oes gan U—

(a)

gwarchodaeth neu ofal am y plentyn am y tro, neu

(b)

cyfrifoldeb rhiant am y plentyn (o fewn ystyr Deddf Plant 1989).

(6)

Ni chaiff person ond arfer y pŵer ym mharagraff (2) neu (4) os yw’r person perthnasol yn ystyried ei fod yn ddull angenrheidiol a chymesur o sicrhau cydymffurfedd â’r gofyniad.

(7)

Pan fo person perthnasol yn ystyried bod tri neu ragor o bobl yn ymgynnull yn groes i reoliad 8(5), caiff y person perthnasol—

(a)

cyfarwyddo’r cynulliad i wasgaru;

(b)

cyfarwyddo unrhyw berson yn y cynulliad i ddychwelyd i’r man lle y mae’n byw;

(c)

mynd ag unrhyw berson yn y cynulliad i’r man lle y mae’n byw.

(8)

Mae paragraffau (3) i (6) o’r rheoliad hwn yn gymwys i arfer y pŵer ym mharagraff (7), fel y maent yn gymwys i arfer pŵer ym mharagraff (2).

(9)

Caiff person perthnasol symud unigolyn o lwybr cyhoeddus neu dir mynediad (o fewn yr ystyr a roddir gan reoliad 9(7)) sydd ar gau (neu sy’n cael ei gau) yn rhinwedd rheoliad 9(1), a chaiff defnyddio grym rhesymol i wneud hynny.

(10)

Caiff person perthnasol gymryd unrhyw gamau gweithredu eraill y mae’n ystyried eu bod yn angenrheidiol ac yn gymesur i hwyluso arfer pŵer a roddir ar y person gan y rheoliad hwn neu reoliad 11.

(11)

At ddibenion y rheoliad hwn a rheoliadau 11, 12 ac 13, ystyr “person perthnasol” yw—

(a)

cwnstabl,

(b)

swyddog cymorth cymunedol yr heddlu,

(c)

person sydd wedi ei ddynodi gan—

(i)

Weinidogion Cymru,

(ii)

awdurdod lleol

(iii)

awdurdod Parc Cenedlaethol yng Nghymru, neu

(iv)

Cyfoeth Naturiol Cymru,

at ddibenion y rheoliad hwn a rheoliadau 11, 12 ac 13 (ond gweler paragraffau (12) ac (13)).

(12)

Ni chaiff person a ddynodir gan awdurdod lleol arfer swyddogaethau person perthnasol ond mewn perthynas â thoriad (neu doriad honedig) gofyniad yn rheoliad 4, 6, 7 neu 9(4) yn unig.

(13)

Ni chaiff person a ddynodir gan awdurdod Parc Cenedlaethol neu Cyfoeth Naturiol Cymru arfer swyddogaethau person perthnasol ond mewn perthynas â thorri’r gofyniad yn rheoliad 9(4) (neu doriad honedig ohono).

(14)

Yn y rheoliad hwn a rheoliadau 11 a 12, mae cyfeiriadau at ofyniad yn cynnwys cyfeiriadau at gyfyngiad.