Legislation – The Health Protection (Coronavirus) (Wales) Regulations 2020
Cadw neu ynysu: darpariaethau ychwanegol9.
(1)
Pan fo P wedi ei gadw neu wedi ei ynysu o dan reoliad 5 neu 8 neu wedi ei ddarostwng i gyfyngiadau neu ofynion o dan reoliad 7, rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw priodol i lesiant P.
(2)
Pan fo P wedi ei gadw neu wedi ei ynysu o dan reoliad 5 neu 8 neu wedi ei ddarostwng i gyfyngiadau neu ofynion o dan reoliad 7 am gyfnod sy’n hwy na 14 diwrnod, rhaid i Weinidogion Cymru adolygu parhad cadwad P cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol drwy gyfeirio at ddarpariaethau’r rheoliadau hynny.
(3)
Ar ôl pob cyfnod dilynol o 24 awr pan fo P wedi ei gadw neu wedi ei ynysu o dan reoliad 5 neu 8 neu wedi ei ddarostwng i gyfyngiadau neu ofynion o dan reoliad 7, rhaid i Weinidogion Cymru adolygu parhad ac amodau cadwad P drwy gyfeirio at ddarpariaethau’r rheoliadau hynny.
(4)
Pan fo P wedi ei gadw neu wedi ei ynysu o dan reoliad 5 neu 8 neu wedi ei ddarostwng i gyfyngiadau neu ofynion o dan reoliad 7, caiff Gweinidogion Cymru neu ymgynghorydd iechyd cyhoeddus cofrestredig ei gwneud yn ofynnol i P gydymffurfio â gofynion ynglŷn â sgrinio os yw Gweinidogion Cymru neu ymgynghorydd iechyd cyhoeddus cofrestredig yn ystyried ei bod yn angenrheidiol ac yn gymesur gwneud hynny er mwyn lleihau neu ddileu’r risg y gallai P heintio neu halogi eraill.
(5)
Pan fo P wedi ei gadw o dan reoliad 4, caiff Gweinidogion Cymru neu ymgynghorydd iechyd cyhoeddus cofrestredig ei gwneud yn ofynnol i P symud i le addas.
(6)
Rhaid i Weinidogion Cymru neu, yn ôl y digwydd, ymgynghorydd iechyd cyhoeddus cofrestredig hysbysu P (neu, pan fo P yn blentyn, hysbysu person sy’n oedolyn cyfrifol mewn perthynas â P), cyn gynted ag y bydd cadwad P o dan reoliad 4 neu 5 yn dechrau, neu cyn gynted ag y penderfynir ynysu P o dan reoliad 8, o’r canlynol─
(a)
y ffaith bod P wedi ei gadw neu wedi ei ynysu,
(b)
y pwerau y mae P wedi ei gadw neu wedi ei ynysu odanynt,
(c)
y rheswm dros gadw neu ynysu P,
(d)
y camau nesaf a all gael eu cymryd a chan bwy,
(e)
y rhwymedigaeth i barhau i adolygu’r angen i gadw neu ynysu P,
(f)
y gosb ar gyfer—
(i)
dianc, neu geisio dianc, rhag cael ei gadw neu ei ynysu o dan reoliad 15(1)(b);
(ii)
darparu gwybodaeth ffug neu gamarweiniol yn fwriadol neu’n ddi-hid o dan reoliad 15(2);
(iii)
rhwystro person rhag cyflawni swyddogaeth o dan y Rheoliadau hyn o dan reoliad 15(3), ac
(g)
yr hawl i apelio i’r llys ynadon o dan reoliad 12, pan fo’n gymwys.