Legislation – The Health Protection (Coronavirus Restrictions) (No. 5) (Wales) Regulations 2020
RHAN 3Gofyniad i ynysu etc.
PENNOD 2Gwybodaeth
Pŵer i ddefnyddio a datgelu gwybodaeth14.
(1)
Ni chaiff swyddog olrhain cysylltiadau ond datgelu gwybodaeth berthnasol i berson (“deiliad yr wybodaeth”) y mae’n angenrheidiol i ddeiliad yr wybodaeth ei chael—
(a)
at ddibenion—
(i)
cyflawni swyddogaeth o dan y Rheoliadau hyn,
(ii)
atal perygl i iechyd y cyhoedd o ganlyniad i ledaeniad haint neu halogiad â’r coronafeirws, neu
(iii)
monitro lledaeniad haint neu halogiad â’r coronafeirws, neu
(b)
at ddiben sy’n gysylltiedig â diben a ddisgrifir yn is-baragraff (a) neu sydd fel arall â chysylltiad â’r diben hwnnw.
(2)
Gwybodaeth berthnasol yw—
(a)
(i)
gwybodaeth gyswllt a dyddiad geni’r person, neu, pan fo’r person yn blentyn, manylion cyswllt yr oedolyn a hysbysir ei bod yn ofynnol i’r plentyn ynysu a dyddiad geni’r plentyn;
(b)
cadarnhad na chafodd person ganlyniad positif am y coronafeirws ac enw, gwybodaeth gyswllt a dyddiad geni’r person, neu, pan fo’r person yn blentyn, enw a manylion cyswllt oedolyn a chanddo gyfrifoldeb dros y plentyn yn ogystal ag enw a dyddiad geni’r plentyn.
(3)
Ni chaiff deiliad yr wybodaeth ddefnyddio gwybodaeth berthnasol a ddatgelir o dan baragraff (1) ond i’r graddau y bo hynny’n angenrheidiol—
(a)
at ddibenion—
(i)
cyflawni swyddogaeth o dan y Rheoliadau hyn,
(ii)
atal perygl i iechyd y cyhoedd o ganlyniad i ledaeniad haint neu halogiad â’r coronafeirws, neu
(iii)
monitro lledaeniad haint neu halogiad â’r coronafeirws, neu
(b)
at ddiben sy’n gysylltiedig â diben a ddisgrifir ym is-baragraff (a) neu sydd fel arall â chysylltiad â’r diben hwnnw.
(4)
Yn ddarostyngedig i baragraff (6), ni chaiff deiliad yr wybodaeth ond datgelu hynny o wybodaeth berthnasol i berson arall (y “derbynnydd”) y mae’n angenrheidiol i’r derbynnydd ei chael—
(a)
at ddibenion—
(i)
cyflawni un o swyddogaethau’r derbynnydd o dan y Rheoliadau hyn,
(ii)
atal perygl i iechyd y cyhoedd o ganlyniad i ledaeniad haint neu halogiad â’r coronafeirws, neu
(iii)
monitro lledaeniad haint neu halogiad â’r coronafeirws, neu
(b)
at ddiben sy’n gysylltiedig â diben a ddisgrifir yn is-baragraff (a) neu sydd fel arall â chysylltiad â’r diben hwnnw.
(5)
Yn ddarostyngedig i baragraff (7), nid yw datgeliad sydd wedi ei awdurdodi gan y rheoliad hwn yn torri—
(a)
rhwymedigaeth o safbwynt cyfrinachedd sy’n ddyledus gan y person sy’n gwneud y datgeliad, na
(b)
unrhyw gyfyngiad arall ar ddatgelu gwybodaeth (sut bynnag y’i gorfodir).
(6)
Nid yw’r rheoliad hwn yn cyfyngu ar yr amgylchiadau pan ganiateir i wybodaeth gael ei datgelu fel arall o dan unrhyw ddeddfiad arall neu reol gyfreithiol.
(7)
Nid oes unrhyw beth yn y rheoliad hwn yn awdurdodi defnyddio neu ddatgelu data personol pan fo gwneud hynny yn torri’r ddeddfwriaeth diogelu data.