Legislation – The Health Protection (Coronavirus Restrictions) (No. 5) (Wales) Regulations 2020
Newidiadau i ddeddfwriaeth:
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.![]()
Changes to Legislation
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i’w gweld yn yr adran ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Os nad yw’r effeithiau hynny wedi’u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi’u rhestru ochr yn ochr â’r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen ‘mwy’ i agor y newidiadau a’r effeithiau sy’n berthnasol i’r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.
Changes and effects yet to be applied to Part 3A:
- Pt. 3A omitted by S.I. 2021/583 reg. 2(3)
- Sch. 1 para. 2(5)(ka)(i) substituted by S.I. 2021/862 reg. 2(4)(b)(v)(cc)(ii)
- Sch. 4 para. 2(4)(i)(ii) inserted by S.I. 2021/583 reg. 2(15)(b)(ii)
- Regulations applied (temp.) by S.I. 2022/126 reg. 12(2)
- reg. 16A(9)(b)(i)(bb) word omitted by S.I. 2021/1291 reg. 9(4)(b)
Changes and effects yet to be applied to the whole Instrument associated Parts and Chapters:
Whole provisions yet to be inserted into this Instrument (including any effects on those provisions):
- Sch. 1 para. 2(5)(ka)(i) substituted by S.I. 2021/862 reg. 2(4)(b)(v)(cc)(ii)
- Sch. 4 para. 2(4)(i)(ii) inserted by S.I. 2021/583 reg. 2(15)(b)(ii)
- reg. 16A(9)(b)(i)(bb) word omitted by S.I. 2021/1291 reg. 9(4)(b)
F1RHAN 3ACyfyngiadau teithio etc.
Cyfyngiad ar deithio rhyngwladol14A.
(1)
Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol—
(a)
ymadael â Chymru i deithio i gyrchfan y tu allan i’r ardal deithio gyffredin, neu
(b)
teithio i fan cychwyn, neu fod yn bresennol ynddo, at ddiben teithio oddi yno i gyrchfan y tu allan i’r ardal deithio gyffredin.
(2)
At ddibenion paragraff (1), mae gan berson esgus rhesymol—
(a)
os yw’r diben y mae’r person yn teithio i gyrchfan y tu allan i’r ardal deithio gyffredin ato yn rhesymol angenrheidiol ac nad oes dewis arall sy’n rhesymol ymarferol;
(b)
os yw un o’r amgylchiadau ym mharagraff (4) yn gymwys.
(3)
Mae enghreifftiau o’r dibenion y gall fod yn rhesymol angenrheidiol i berson deithio i gyrchfan y tu allan i’r ardal deithio gyffredin atynt yn cynnwys—
(a)
cael neu ddarparu cynhorthwy meddygol;
(b)
osgoi salwch, anaf neu risg arall o niwed;
(c)
gweithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol;
(d)
cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu gymryd rhan mewn achos cyfreithiol;
(e)
(f)
mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto;
(g)
symud cartref;
(h)
ymgymryd â gweithgareddau mewn cysylltiad â phrynu, gwerthu, gosod neu rentu eiddo preswyl;
(i)
cael gafael ar wasanaethau addysgol neu gael y gwasanaethau hynny.
(4)
Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2)(b) yw bod y person yn—
(a)
darparu neu’n cael cynhorthwy brys;
(b)
mynd i weinyddiad priodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall—
(i)
fel parti i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall, neu
(ii)
fel gofalwr parti i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall;
(c)
mynd i angladd—
(i)
fel person sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd,
(ii)
os caiff ei wahodd gan berson sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd, neu
(iii)
fel gofalwr person sy’n mynd i’r angladd;
(d)
athletwr elît ac yn teithio at ddibenion hyfforddi neu gystadlu;
(e)
darparu hyfforddiant neu gymorth arall i athletwr elît, neu’n darparu cymorth mewn—
(i)
digwyddiad chwaraeon elît, neu
(ii)
digwyddiad chwaraeon sy’n digwydd y tu allan i’r ardal deithio gyffredin;
(f)
teithio er mwyn pleidleisio mewn etholiad.
(5)
Nid yw paragraffau (1) a (2) yn gymwys i berson y cyfeirir ato yn Atodlen 5A.
(6)
Yn y rheoliad hwn, ac yn rheoliadau 14B a 29—
(a)
(b)
ystyr “man cychwyn” yw terfynfa ryngwladol neu unrhyw fan arall yng Nghymru y caiff person deithio ohono i gyrchfan y tu allan i’r Deyrnas Unedig.
Ffurflen datganiad teithio rhyngwladol14B.
(1)
Rhaid i berson (“P”) sy’n bresennol mewn man cychwyn at ddiben teithio oddi yno i gyrchfan y tu allan i’r ardal deithio gyffredin, os gofynnir iddo wneud hynny gan swyddog gorfodaeth, ddarparu ffurflen datganiad teithio rhyngwladol wedi ei chwblhau i’r swyddog.
(2)
(a)
enw llawn P,
(b)
dyddiad geni a chenedligrwydd P,
(c)
rhif pasbort P, neu rif cyfeirnod dogfen deithio P (fel y bo’n briodol),
(d)
cyfeiriad cartref P,
(e)
cyrchfan P,
(f)
y rheswm y mae P yn teithio i gyrchfan y tu allan i’r ardal deithio gyffredin,
(g)
datganiad bod P yn ardystio bod yr wybodaeth y mae P yn ei darparu yn wir, ac
(h)
y dyddiad y mae’r datganiad wedi ei gwblhau.
(3)
Pan fo P yn teithio gyda phlentyn neu berson nad oes ganddo alluedd (“G”), y mae gan P gyfrifoldeb drosto, rhaid i P, os gofynnir iddo wneud hynny gan swyddog gorfodaeth, ddarparu ffurflen datganiad teithio rhyngwladol wedi ei chwblhau sy’n ymwneud ag G i’r swyddog.
(4)
Nid yw’r rhwymedigaeth ym mharagraff (1) yn gymwys—
(a)
i G, na
(b)
i berson y cyfeirir ato yn Atodlen 5A.