Legislation – The Education (Admission Appeals Arrangements) (Wales) (Coronavirus) (Amendment) (Amendment) Regulations 2020

Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Coronafeirws) (Diwygio) (Diwygio) 2020
2020 Rhif 1606 (W. 333)
Addysg, Cymru

Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Coronafeirws) (Diwygio) (Diwygio) 2020

Made
Laid before Parliament
Coming into force

Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 94(5) a (5A), 95(3) a (3A) a 138(7) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 19981 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy2 yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

1

1998 p. 31; gweler adran 142(1) am y diffiniadau o “the Assembly”, “prescribed” a “Regulations”. Mewnosodwyd is-adran (5A) yn adran 94 gan adran 50 o Ddeddf Addysg 2002 (p. 32). Mewnosodwyd is-adran (3A) yn adran 95 gan baragraff 9 o Atodlen 4 i Ddeddf Addysg 2002.

2

Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan yr adrannau hyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac yna i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).