Legislation – The Health Protection (Coronavirus Restrictions) (School Premises and Further Education Institution Premises) (Wales) Regulations 2020
Cyfyngiad ar fynd i fangre addysg bellach4.
(1)
Ni chaiff perchennog sefydliad addysg bellach yng Nghymru ganiatáu i fyfyriwr i fynd i fangre sefydliad addysg bellach yn ystod y cyfnod sy’n cychwyn ar ddechrau’r dydd ar 14 Rhagfyr 2020 ac yn gorffen ar ddiwedd y dydd ar 22 Rhagfyr 2020.
(2)
Ond nid yw paragraff (1) yn atal perchennog rhag caniatáu myfyriwr i fynd i fangre—
(a)
sefydliad addysg bellach i wneud arholiad neu asesiad arall;
(b)
sefydliad yn y sector addysg bellach pan fo’r sefydliad yn hysbysu’r myfyriwr ei fod yn ystyried ei bod yn briodol i’r myfyriwr fynd yno oherwydd amgylchiadau eithriadol sy’n ymwneud â hyglwyfedd y myfyriwr.