Legislation – The Health Protection (Coronavirus, International Travel and Public Health Information to Travellers) (Wales) (Amendment) (No. 2) Regulations 2020

RHAN 1Cyffredinol

Enwi, dod i rym a dehongli1.

(1)

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020.

(2)

Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 4.00 a.m. ar 12 Rhagfyr 2020.

(3)

Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “y Rheoliadau Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd” (“the Public Health Information Regulations”) yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 20202;
ystyr “y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol” (“the International Travel Regulations”) yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 20203.