Legislation – The Personal Protective Equipment (Temporary Arrangements) (Coronavirus) (Wales) Regulations 2020

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli1.

(1)

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfarpar Diogelu Personol (Trefniadau Dros Dro) (Coronafeirws) (Cymru) 2020 ac maent yn dod i rym ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.

(2)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3)

Yn y Rheoliadau hyn—

(a)

ystyr “y Rheoliad PPE” (“the PPE Regulation”) yw Rheoliad (EU) 2016/425 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 9 Mawrth 2016 ar gyfarpar diogelu personol ac sy’n diddymu Cyfarwyddeb y Cyngor 89/686/EEC2;

(b)

mae i ymadroddion Cymraeg yn y Rheoliadau hyn sy’n cyfateb i ymadroddion Saesneg sy’n ymddangos yn y Rheoliad PPE yr un ystyr ag y sydd iddynt yn y Rheoliad PPE;

(c)

ystyr “Rheoliadau 2018” (“the 2018 Regulations”) yw Rheoliadau Cyfarpar Diogelu Personol (Gorfodi) 20183;

(4)

Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch” (“the HSE”) yw’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch4;

ystyr “clefyd y coronafeirws” (“coronavirus disease”) yw COVID-19 (sef dynodiad swyddogol y clefyd a achosir gan y coronafeirws);

ystyr “corff a hysbyswyd” (“notified body”) yw corff asesu cydymffurfiaeth nad yw’n gorff cymeradwy, yr aseiniwyd rhif adnabod iddo o dan Erthygl 29 o Reoliad (EU) 2016/425 (fel y mae’n cael effaith yng nghyfraith yr UE).

ystyr “coronafeirws” (“coronavirus”) yw syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2);

ystyr “GIDH” (“EHSR”) yw’r gofynion iechyd a diogelwch hanfodol sy’n gymwys i PPE Covid fel y nodir yn Atodiad 2 i’r Rheoliad PPE;

mae i “nod CE” (“CE marking”) yr ystyr a roddir i “CE marking” yn Erthygl 3(18) o Reoliad (EU) 2016/425 (fel y mae’n cael effaith yng nghyfraith yr UE);

ystyr “PPE Covid” (“Covid PPE”) yw PPE—

  1. (i)

    sy’n angenrheidiol ar gyfer diogelu rhag clefyd y coronafeirws; a

  2. (ii)

    sydd angen asesiad cydymffurfiaeth gan gorff cymeradwy, yn unol â Rheoliad 19 o’r Rheoliad PPE.

2

Mae’r Rheoliad PPE wedi ei gorffori yng nghyfraith ddomestig gan adran 3(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) ac wedi ei ddiwygio’n rhagolygol gydag effaith o ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu gan reoliad 38 o Reoliadau Diogelwch a Mesureg Cynnyrch etc. (Diwygio etc.) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/696) ac Atodlen 35 iddynt.

3

O.S. 2018/390; gwnaed yr offeryn yn rhannol o dan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p. 68) ac mae wedi ei arbed yn unol â hynny yn rhinwedd adran 2(2)(a) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16); mae diwygiadau sy’n rhychwantu Prydain Fawr wedi eu gwneud yn rhagolygol gyda effaith o ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, gan O.S. 2019/696; mae diwygiadau eraill, ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

4

Sefydlwyd o dan adran 10 o Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith etc. 1974 (p. 37).