Legislation – The Health Protection (Coronavirus, International Travel) (Wales) (Amendment) (No. 20) Regulations 2020

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 20) 2020. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i’w gweld yn yr adran ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Os nad yw’r effeithiau hynny wedi’u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi’u rhestru ochr yn ochr â’r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen ‘mwy’ i agor y newidiadau a’r effeithiau sy’n berthnasol i’r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.


View outstanding changes

Changes and effects yet to be applied to Regulation 3:

RHAN 2Ychwanegiadau at y rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt yn Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol

Darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â rheoliad 23.

(1)

Mae paragraff (2) yn gymwys pan, yn union cyn 4.00 a.m. ar 21 Tachwedd 2020—

(a)

oedd person (“P”) yn ddarostyngedig i ofyniad i ynysu yn rhinwedd y ffaith iddo gyrraedd Cymru o wlad neu diriogaeth a restrir yn rheoliad 2, neu ar ôl bod mewn gwlad neu diriogaeth o’r fath, a

(b)

diwrnod olaf ynysiad P yw 21 Tachwedd 2020 neu ddiwrnod ar ôl y diwrnod hwnnw.

(2)

Nid yw ychwanegu’r wlad a’r diriogaeth a restrir yn rheoliad 2 at Ran 1 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn effeithio ar y gofyniad i ynysu fel y mae’n gymwys i P, nac ar y modd y pennir diwrnod olaf ynysiad P o dan y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.

(3)

Mae paragraff (4) yn gymwys pan fo person (“P”)—

(a)

yn cyrraedd Cymru am 4.00 a.m. ar 21 Tachwedd 2020 neu wedi hynny, a

(b)

wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth a restrir yn rheoliad 2 o fewn y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dod i ben â’r diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru.

(4)

At ddibenion rheoliadau 7(1) ac 8(1) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, mae’r cwestiwn o ran a yw P wedi cyrraedd Cymru o wlad neu diriogaeth nad yw’n esempt neu ar ôl bod mewn gwlad neu diriogaeth o’r fath i’w bennu, mewn perthynas â gwlad neu diriogaeth a restrir yn rheoliad 2, drwy gyfeirio at ba un a oedd y wlad neu’r diriogaeth yn wlad neu’n diriogaeth nad yw’n esempt pan oedd P yno ddiwethaf (ac nid drwy gyfeirio at statws y wlad neu’r diriogaeth pan fo P yn cyrraedd Cymru).

(5)

Yn y rheoliad hwn, mae i “gofyniad i ynysu” yr ystyr a roddir gan reoliad 10(2) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol; ac mae cyfeiriadau at ddiwrnod olaf ynysiad P i’w dehongli yn unol â rheoliad 12 o’r Rheoliadau hynny.

Annotations:
Commencement Information

I1Rhl. 3 mewn grym ar 21.11.2020 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)