Legislation – The Health Protection (Coronavirus, International Travel and Restrictions) (Amendment) (Wales) Regulations 2020
RHAN 2Diwygio Rhan 3 o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol
Mewnosod darpariaethau newydd sy’n ymwneud â Denmarc2.
“Rheolau arbennig sy’n berthnasol i bobl sy’n teithio o Ddenmarc12A.
(1)
Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan osodir gofyniad i ynysu (o fewn yr ystyr a roddir gan reoliad 10(2)) ar berson (“P”) oherwydd fod P—
(a)
wedi cyrraedd Cymru o Ddenmarc, neu
(b)
wedi bod yn Nenmarc o fewn y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dod i ben ar y diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru.
(2)
Mae’r gofyniad i ynysu a osodir ar P hefyd yn cael ei osod ar bob aelod o aelwyd P.
(3)
Er gwaethaf rheoliad 9(2), mae rheoliadau 7 ac 8 yn gymwys i P.
(4)
Nid yw aelod o aelwyd P wedi’i eithrio o’r gofyniad i ynysu yn rhinwedd rheoliad 9(2).
(5)
Yn unol â hynny, nid yw P nac unrhyw aelod o aelwyd P i’w drin fel person a ddisgrifir mewn unrhyw baragraff o Atodlen 2.
(6)
At ddibenion rheoliad 10, mae aelod o aelwyd P i’w drin fel pe bai’r person hwnnw yw P.
(7)
Mae rheoliad 10 yn gymwys i P (ac aelod o aelwyd P yn rhinwedd paragraff (6)) fel pe bai, yn lle paragraff (4) o’r rheoliad hwnnw, y canlynol yn cael ei amnewid—“(4)
Caniateir i P adael y fangre a bod y tu allan iddi—
(a)
am gyhyd ag y bo’n angenrheidiol—
(i)
i geisio cynhorthwy meddygol, pan fo angen y cynhorthwy hwnnw ar frys neu yn unol â chyngor ymarferydd meddygol cofrestredig;
(ii)
i osgoi salwch neu anaf neu i ddianc rhag risg o niwed difrifol;
(b)
os yw cwnstabl yn dweud fod yn rhaid gwneud hynny.”