Legislation – The Health Protection (Coronavirus Restrictions) (No. 4) (Wales) Regulations 2020

New Search

Introduction

PART 1
Introduction, review and expiry

1 Title, application and coming into force

2 Review

3 Expiry

PART 2
Restrictions on gatherings and events

4 Restriction on gatherings in private dwellings

5 Extended households

6 Restriction on gatherings in public places

7 Prohibition on organising events

8 Prohibition on organising certain unlicensed music events

PART 3
Restrictions on travel

9 Restriction on travel to and from Wales

PART 4
Requirement to isolate etc.

CHAPTER 1 Requirement to isolate etc. where person tests positive for coronavirus or has close contact with such person

10 Interpretation of Part

11 Requirement to isolate: adult with coronavirus

12 Requirement to isolate: child with coronavirus

13 Requirement to isolate after close contact: adult

14 Requirement to isolate after close contact: child

15 Isolation requirements: exceptions

16 Requirement on persons with responsibility for children

17 Withdrawing a notice which requires isolation

CHAPTER 2 Information

18 Power to use and disclose information

PART 5
Restrictions on certain businesses and services

19 Closure of premises used by certain businesses and services

20 Restrictions on licensed premises

PART 6
Minimising risk of exposure to coronavirus

21 Requirement to take preventative measures on regulated premises to minimise risk

22 Requirement to wear face covering on public transport

23 Requirement to wear face covering in certain indoor public places

24 Guidance on minimising exposure

PART 7
Enforcement

25 Enforcement officers

26 Enforcement of requirement to take preventative measures

27 Compliance notices

28 Powers of removal and dispersal

29 Powers relating to prohibited events

30 Enforcement of face covering requirements

31 Enforcement: children

32 Power of entry

33 Power of police to conduct road checks

34 Enforcement: supplemental provision

PART 8
Offences and penalties

35 Offences and penalties

36 Offences committed by bodies corporate etc.

37 Fixed penalty notices

38 Amount of fixed penalty: general

39 Amount of fixed penalty: participating in a large gathering at a private dwelling

40 Amount of fixed penalty: organising an event

41 Amount of fixed penalty: organising an unlicensed music event

42 Amount of fixed penalty: business-related offences

43 Fixed penalties: form and procedure

44 Fixed penalty notices: prohibition of double jeopardy

45 Self-incrimination

46 Prosecutions

PART 9
General

47 Interpretation

48 Consequential amendment

SCHEDULES

SCHEDULE 1 Businesses or services whose premises must be closed

SCHEDULE 2 Regulated premises

SCHEDULE 3 Enforcement of requirement to take preventative measures on regulated premises

SCHEDULE 4 Form of sign to accompany premises improvement notice or premises closure notice

Signature

Explanatory note

ATODLEN 3Gorfodi gofyniad i gymryd mesurau ataliol mewn mangre reoleiddiedig

Rheoliad 26

Hysbysiad gwella mangre

1.

(1)

Caiff swyddog gorfodaeth ddyroddi hysbysiad (“hysbysiad gwella mangre”) i berson cyfrifol os yw’r swyddog yn ystyried—

(a)

nad yw’r person yn cydymffurfio â’r rhwymedigaethau a osodir ar y person gan reoliad 21(2), a

(b)

bod y mesurau a bennir yn yr hysbysiad yn angenrheidiol ac yn gymesur er mwyn sicrhau bod y person yn cydymffurfio â’r rhwymedigaethau hynny.

(2)

Rhaid i hysbysiad gwella mangre—

(a)

pennu’r fangre y mae’n ymwneud â hi;

(b)

pennu’r mesurau y mae’n ei gwneud yn ofynnol eu cymryd er mwyn sicrhau bod y person yn cydymffurfio â’r rhwymedigaethau a osodir gan reoliad 21(2);

(c)

pennu terfyn amser y mae rhaid cymryd y mesurau oddi mewn iddo (na chaniateir iddo fod yn llai nag 48 awr sy’n dechrau â’r amser y dyroddir yr hysbysiad);

(d)

rhoi manylion yr hawl i apelio a roddir gan baragraff 5.

(3)

Yn yr Atodlen hon, mae i “person cyfrifol” yr ystyr a roddir gan reoliad 21(1).

Hysbysiad cau mangre

2.

(1)

Os yw naill ai amod 1 neu amod 2 wedi ei fodloni, caiff swyddog gorfodaeth ddyroddi hysbysiad (“hysbysiad cau mangre”) i berson cyfrifol sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r fangre, neu ran o’r fangre, gael ei chau.

(2)

Amod 1 yw—

(a)

bod hysbysiad gwella mangre wedi ei ddyroddi i’r person,

(b)

bod y swyddog gorfodaeth yn ystyried bod y person wedi methu â chymryd y mesurau a bennir yn yr hysbysiad gwella mangre o fewn y terfyn amser penodedig, ac

(c)

bod y swyddog yn ystyried bod cau’r fangre, neu ran o’r fangre, yn angenrheidiol ac yn gymesur at ddiben lleihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws.

(3)

Amod 2 yw bod y swyddog gorfodaeth yn ystyried—

(a)

nad yw’r person yn cydymffurfio â’r rhwymedigaethau a osodir ar y person gan reoliad 21(2), a

(b)

bod cau’r fangre, neu ran o’r fangre, (heb fod hysbysiad gwella mangre wedi ei ddyroddi) yn angenrheidiol ac yn gymesur at ddiben lleihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws.

(4)

Rhaid i hysbysiad cau mangre—

(a)

cynnwys disgrifiad o’r fangre sydd i’w chau,

(b)

pan fo hysbysiad gwella mangre wedi ei ddyroddi, nodi’r mesurau y mae’r swyddog gorfodaeth yn ystyried—

(i)

nad ydynt wedi eu cymryd, a

(ii)

y mae rhaid eu cymryd er mwyn sicrhau bod y person cyfrifol yn cydymffurfio â’r rhwymedigaethau a osodir gan reoliad 21(2),

(c)

pan na fo hysbysiad gwella mangre wedi ei ddyroddi, nodi’r rhesymau pam y mae’r swyddog gorfodaeth yn ystyried nad yw’r person yn cydymffurfio â’r rhwymedigaethau a osodir gan reoliad 21(2),

(d)

yn y naill achos neu’r llall, nodi’r rhesymau pam y mae’r swyddog gorfodaeth yn ystyried bod cau’r fangre yn angenrheidiol ac yn gymesur at ddiben lleihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws,

(e)

pennu’r cyfnod y mae’r hysbysiad yn cael effaith amdano, ac

(f)

rhoi manylion yr hawl i apelio a roddir gan baragraff 5.

(5)

Ni chaniateir i’r cyfnod a bennir o dan is-baragraff (4)(e) fod yn hwy na 336 o oriau (14 o ddiwrnodau) sy’n dechrau â’r amser y dyroddir yr hysbysiad.

(6)

Mae hysbysiad cau mangre yn cael effaith o’r amser y’i dyroddir neu o amser diweddarach a bennir yn yr hysbysiad.

(7)

Ni chaniateir dyroddi hysbysiad cau mangre mewn perthynas â mangre sy’n rhan o seilwaith hollbwysig (er enghraifft, mangre a ddefnyddir i gynhyrchu trydan neu gyflenwi dŵr) neu a ddefnyddir i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol.

Effaith hysbysiad cau mangre

3.

(1)

Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i hysbysiad cau mangre gymryd effaith, rhaid i’r person y’i dyroddir iddo sicrhau—

(a)

bod y fangre y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi yn cael ei chau, a

(b)

na chynhelir unrhyw fusnes neu na ddarperir unrhyw wasanaeth yn y fangre neu ohoni.

(2)

Ni chaiff unrhyw berson fynd i’r fangre, neu fod yn y fangre, sydd wedi ei chau o dan is-baragraff (1) heb esgus rhesymol.

(3)

At ddibenion is-baragraff (2), mae’r amgylchiadau pan fo gan berson esgus rhesymol yn cynnwys—

(a)

pan fo’r person yn byw yn y fangre;

(b)

pan fo’r person yn gwneud gwaith cynnal a chadw neu atgyweirio hanfodol;

(c)

pan fo’r person yn gwneud pethau sy’n angenrheidiol er mwyn sicrhau y gellir cydymffurfio â rheoliad 21(2) pan ganiateir i’r fangre fod ar agor;

(d)

pan fo’r person yn swyddog gorfodaeth neu berson sy’n cynorthwyo swyddog gorfodaeth;

(e)

pan fo’n angenrheidiol i’r person fod yn y fangre er mwyn osgoi anaf neu salwch neu ddianc rhag risg o niwed.

Terfynu hysbysiad gwella neu gau mangre

4.

(1)

Caiff swyddog gorfodaeth ddyroddi hysbysiad sy’n terfynu hysbysiad gwella mangre neu hysbysiad cau mangre os yw wedi ei fodloni—

(a)

bod y mesurau a bennir yn yr hysbysiad gwella mangre (os dyroddwyd un) wedi eu cymryd, neu

(b)

bod mesurau eraill wedi eu cymryd i sicrhau y gellir cydymffurfio â rheoliad 21(2) yn y fangre o dan sylw.

(2)

Mae hysbysiad gwella mangre neu hysbysiad cau mangre yn peidio â chael effaith ar yr amser y dyroddir hysbysiad o’r terfyniad.

Apelau

5.

(1)

Caiff person y dyroddir hysbysiad gwella mangre neu hysbysiad cau mangre iddo apelio i lys ynadon yn erbyn yr hysbysiad.

(2)

Rhaid i apêl gael ei gwneud—

(a)

drwy gŵyn am orchymyn, ac yn unol â Deddf Llysoedd Ynadon 1980, a

(b)

o fewn 7 niwrnod ar ôl i’r hysbysiad gael ei ddyroddi.

(3)

Ond caiff llys ynadon ganiatáu i apêl gael ei gwneud ar ôl diwedd y cyfnod a grybwyllir yn is-baragraff (2)(b) os yw wedi ei fodloni bod rheswm da dros fethu ag apelio cyn diwedd y cyfnod hwnnw (a thros unrhyw oedi cyn gwneud cais am ganiatâd i apelio y tu allan i amser).

(4)

Caiff llys ynadon atal dros dro effaith hysbysiad gwella mangre neu hysbysiad cau mangre wrth aros am y penderfyniad ar yr apêl.

(5)

Ar apêl yn erbyn hysbysiad gwella mangre neu hysbysiad cau mangre, caiff llys ynadon—

(a)

cadarnhau’r penderfyniad i ddyroddi’r hysbysiad;

(b)

cyfarwyddo bod yr hysbysiad i beidio â chael effaith;

(c)

addasu’r hysbysiad;

(d)

gwneud unrhyw orchymyn arall y mae’r llys yn ystyried ei fod yn briodol.

(6)

Os yw’r llys ynadon yn cyfarwyddo bod hysbysiad i beidio â chael effaith neu’n addasu hysbysiad, caiff orchymyn i’r awdurdod lleol ar gyfer yr ardal lle y mae’r fangre o dan sylw ddigolledu’r person sy’n gyfrifol am y fangre am golled a ddioddefir o ganlyniad i ddyroddi’r hysbysiad.

(7)

Caiff y naill parti neu’r llall ddwyn apêl yn erbyn penderfyniad llys ynadon ar apêl o dan yr adran hon i Lys y Goron.

(8)

Ar apêl i Lys y Goron, caiff y Llys—

(a)

cadarnhau, amrywio neu wrthdroi penderfyniad y llys ynadon;

(b)

anfon yr achos yn ôl i’r llys ynadon i’w waredu yn unol â chyfarwyddydau a roddir gan Lys y Goron.

Dyroddi hysbysiadau gwella a chau mangreoedd a therfyniadau

6.

(1)

Caiff hysbysiad gwella mangre, hysbysiad cau mangre neu derfyniad o’r naill neu’r llall o’r mathau hynny o hysbysiad ei ddyroddi i berson drwy roi copi ohono yn ysgrifenedig i’r person hwnnw.

(2)

Ond pan na fo’r person sy’n gyfrifol am y fangre y mae’r hysbysiad neu’r terfyniad yn ymwneud â hi yn y fangre pan yw’r hysbysiad i’w ddyroddi, mae’r hysbysiad i’w drin fel pe bai wedi ei ddyroddi i’r person hwnnw—

(a)

os rhoddir copi ohono i unrhyw berson arall yn y fangre yr ymddengys ei fod yn gyfrifol am unrhyw fusnes neu wasanaeth a gynhelir yn y fangre, neu

(b)

os nad oes unrhyw berson o’r fath yn y fangre pan yw’r hysbysiad i’w ddyroddi, os gosodir copi o’r hysbysiad mewn lle amlwg yn y fangre.

Rhoi cyhoeddusrwydd i hysbysiadau gwella a chau mangreoedd

7.

(1)

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo swyddog gorfodaeth wedi dyroddi hysbysiad gwella mangre neu hysbysiad cau mangre.

(2)

Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl dyroddi’r hysbysiad, rhaid i’r swyddog gorfodaeth—

(a)

arddangos copi o’r hysbysiad, ac arwydd ar y ffurf a nodir yn Atodlen 4, mewn man amlwg yn agos i bob mynedfa i’r fangre;

(b)

trefnu i’r hysbysiad gael ei gyhoeddi ar wefan yr awdurdod lleol ar gyfer yr ardal lle y mae’r fangre.

(3)

Rhaid i hysbysiad neu arwydd a arddangosir o dan is-baragraff (2)(a) fod o faint A4 o leiaf.

(4)

Rhaid i hysbysiad y mae’n ofynnol ei arddangos a’i gyhoeddi o dan is-baragraff (2) barhau i gael ei arddangos a’i gyhoeddi, a rhaid i arwydd y mae’n ofynnol ei arddangos o dan yr is-baragraff hwnnw barhau i gael ei arddangos, am gyhyd ag y mae’r hysbysiad yn cael effaith.

Dangos dogfennau etc.

8.

(1)

Caiff swyddog gorfodaeth, er mwyn hwyluso arfer pŵer a roddir i’r swyddog gan yr Atodlen hon, ei gwneud yn ofynnol dangos unrhyw ddogfennau neu gofnodion electronig, edrych ar y dogfennau hynny neu’r cofnodion electronig hynny a chymryd copïau ohonynt.

(2)

Ni chaniateir ei gwneud yn ofynnol o dan is-baragraff (1) i berson ddarparu dogfen, cofnod neu wybodaeth arall y gellid maentumio hawliad am fraint broffesiynol gyfreithiol mewn cysylltiad â hi neu ag ef mewn achos cyfreithiol.