Legislation – The Health Protection (Coronavirus Restrictions) (No. 4) (Wales) Regulations 2020
RHAN 2Cyfyngiadau ar gynulliadau a digwyddiadau
Gwaharddiad ar drefnu digwyddiadau7.
(1)
Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, ymwneud â threfnu—
(a)
digwyddiad a gynhelir yn gyfan gwbl neu’n bennaf o dan do lle y mae mwy na 15 o bobl yn bresennol, neu
(b)
digwyddiad a gynhelir yn gyfan gwbl neu’n bennaf yn yr awyr agored lle y mae mwy na 30 o bobl yn bresennol,
heb gynnwys personau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio yn y digwyddiad neu sy’n darparu gwasanaethau elusennol ynddo.
(2)
At ddibenion paragraff (1)—
(a)
nid yw person yn ymwneud â threfnu digwyddiad os nad yw’r person ond yn ymwneud â’r digwyddiad drwy fynd iddo;
(b)
mae esgus rhesymol yn cynnwys pan fo’r person wedi cymryd pob mesur rhesymol i sicrhau nad yw mwy na 15 neu 30 yn bresennol, yn ôl y digwydd;
(c)
nid yw’r canlynol i’w trin yn ddigwyddiadau—
(i)
arddangos ffilm;
(ii)
marchnad;
(iii)
gwasanaeth crefyddol;
(iv)
digwyddiad chwaraeon nad yw ond athletwyr elît yn cystadlu ynddo.