Legislation – The Health Protection (Coronavirus Restrictions) (No. 4) (Wales) Regulations 2020
RHAN 7Gorfodi
Gorfodi: plant31.
(1)
Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person (“P”) yn torri rheoliad 4(1), a’i fod yn blentyn gydag unigolyn (“U”) a chanddo gyfrifoldeb dros P—
(a)
os nad yw P yn byw yn yr annedd lle y mae’r toriad honedig yn digwydd, caiff y swyddog gyfarwyddo U i symud P o’r annedd, a
(b)
rhaid i U, i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, sicrhau bod P yn cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd neu gyfarwyddiad a roddir gan y swyddog i P.
(2)
Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person (“P”) mewn cynulliad yn groes i reoliad 6(1) neu (3) a’i fod yn blentyn gydag unigolyn (“U”) a chanddo gyfrifoldeb dros P—
(a)
caiff y swyddog gyfarwyddo U i fynd â P i’r man lle y mae P yn byw, a
(b)
rhaid i U, i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, sicrhau bod P yn cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd neu gyfarwyddiad a roddir gan y swyddog i P.
(3)
Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person (“P”) yn torri rheoliad 9 a’i fod yn blentyn gydag unigolyn (“U”) a chanddo gyfrifoldeb dros P—
(a)
caiff y swyddog gyfarwyddo U—
(i)
mewn achos honedig o dorri rheoliad 9(1), i fynd â P i fan y tu allan i Gymru,
(ii)
mewn achos honedig o dorri rheoliad 9(2), i atal P rhag ymadael â Chymru neu i fynd â P yn ôl i Gymru, a
(b)
rhaid i U, i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, sicrhau bod P yn cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd neu gyfarwyddiad a roddir gan y swyddog i P.
(4)
Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person (“P”) i ffwrdd o’r man lle y mae’n byw yn groes i reoliad 12(2) neu 14(2) a’i fod yn blentyn gydag unigolyn (“U”) a chanddo gyfrifoldeb dros P—
(a)
caiff y swyddog gyfarwyddo U i fynd â P i’r man lle y mae P yn byw, a
(b)
rhaid i U, i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, sicrhau bod P yn cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd neu gyfarwyddiad a roddir gan y swyddog i P.
(5)
Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod plentyn yn methu â chydymffurfio â gofyniad yn rheoliad 22(1) neu 23(1), caiff y swyddog gyfarwyddo unrhyw unigolyn (“U”) a chanddo gyfrifoldeb dros y plentyn i sicrhau, i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, fod y plentyn yn cydymffurfio â’r gofyniad.
(6)
(a)
gwarchodaeth neu ofal am y plentyn am y tro, neu
(b)
cyfrifoldeb rhiant dros y plentyn.