Legislation – The Health Protection (Coronavirus Restrictions) (No. 4) (Wales) Regulations 2020
RHAN 7Gorfodi
Pwerau sy’n ymwneud â digwyddiadau gwaharddedig29.
(1)
Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person (“P”) yn ymwneud â threfnu digwyddiad yn groes i reoliad 7(1) neu 8(1), caiff y swyddog—
(a)
cyfarwyddo P i ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau y mae’r swyddog yn ystyried eu bod yn angenrheidiol er mwyn stopio’r digwyddiad;
(b)
symud P o leoliad y digwyddiad;
(c)
cyfarwyddo unrhyw berson i ymadael â’r digwyddiad (neu pan fo’r person yn blentyn sydd gydag oedolyn a chanddo gyfrifoldeb dros y plentyn, cyfarwyddo’r unigolyn i symud y plentyn o’r digwyddiad);
(d)
symud unrhyw berson o’r digwyddiad.
(2)
Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person (“P”) yn ymwneud â threfnu digwyddiad y mae’r swyddog yn ystyried ei fod yn debygol o dorri rheoliad 7(1) neu 8(1), caiff y swyddog—
(a)
cyfarwyddo P i ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau y mae’r swyddog yn ystyried eu bod yn angenrheidiol er mwyn atal y digwyddiad rhag digwydd;
(b)
symud P o leoliad arfaethedig y digwyddiad.