Legislation – The Health Protection (Coronavirus Restrictions) (No. 4) (Wales) Regulations 2020
RHAN 7Gorfodi
Pwerau symud a gwasgaru28.
(1)
Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person yn torri rheoliad 4(1), caiff y swyddog—
(a)
cyfarwyddo’r cynulliad i wasgaru;
(b)
cyfarwyddo unrhyw berson nad yw’n byw yn yr annedd lle y mae’r toriad o dan amheuaeth yn digwydd i ymadael â’r annedd;
(c)
symud unrhyw berson o’r fath o’r annedd.
(2)
Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod pobl wedi ymgynnull yn groes i reoliad 6(1) neu (3), caiff y swyddog—
(a)
cyfarwyddo’r cynulliad i wasgaru;
(b)
cyfarwyddo unrhyw berson yn y cynulliad i ddychwelyd i’r man lle y mae’n byw;
(c)
symud unrhyw berson yn y cynulliad i’r man lle y mae’n byw.
(3)
Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person (“P”) yn torri rheoliad 9, caiff y swyddog gyfarwyddo P—
(a)
mewn achos honedig o dorri rheoliad 9(1), i ymadael â Chymru, neu
(b)
mewn achos honedig o dorri rheoliad 9(2), i beidio ag ymadael â Chymru neu i ddychwelyd i Gymru.
(4)
Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person (“P”) i ffwrdd o’r man lle y mae’n byw yn groes i reoliad 11(2), 12(2), 13(2) neu 14(2), caiff y swyddog—
(a)
cyfarwyddo P i ddychwelyd i’r man lle y mae P yn byw;
(b)
symud P i’r man hwnnw.