Legislation – The Health Protection (Coronavirus, International Travel) (Wales) (Amendment) (No. 16) Regulations 2020
RHAN 2Diwygiadau i’r rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt yn Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol
Ychwanegiadau at y rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt2.
“Denmarc”
“Maldives”
“Yr Ynysoedd Dedwydd”.
Diwygiad i’r rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt3.
Yn Rhan 1 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (gwledydd a thiriogaethau esempt y tu allan i’r ardal deithio gyffredin), yn y cofnod ar gyfer Gwlad Groeg, hepgorer “, ac eithrio tiriogaeth Mykonos”.
Darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â rheoliadau 2 a 34.
(1)
Mae paragraff (2) yn gymwys pan, yn union cyn 4.00 a.m. ar 25 Hydref 2020—
(a)
oedd person (“P”) yn ddarostyngedig i ofyniad i ynysu yn rhinwedd y ffaith iddo gyrraedd Cymru o wlad neu diriogaeth a restrir yn rheoliad 2 neu 3, neu ar ôl bod mewn gwlad neu diriogaeth o’r fath, a
(b)
diwrnod olaf ynysiad P yw 25 Hydref 2020 neu ddiwrnod ar ôl y diwrnod hwnnw.
(2)
Nid yw ychwanegu’r gwledydd a’r tiriogaethau a restrir yn rheoliadau 2 a 3 at Ran 1 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn effeithio ar y gofyniad i ynysu fel y mae’n gymwys i P, nac ar y modd y pennir diwrnod olaf ynysiad P o dan y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.
(3)
Mae paragraff (4) yn gymwys pan fo person (“P”)—
(a)
yn cyrraedd Cymru am 4.00 a.m. ar 25 Hydref 2020 neu wedi hynny, a
(b)
wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth a restrir yn rheoliad 2 neu 3 o fewn y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dod i ben â’r diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru.
(4)
At ddibenion rheoliadau 7(1) ac 8(1) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, mae’r cwestiwn o ran a yw P wedi cyrraedd Cymru o wlad neu diriogaeth nad yw’n esempt neu ar ôl bod mewn gwlad neu diriogaeth o’r fath i’w bennu, mewn perthynas â gwlad neu diriogaeth a restrir yn rheoliad 2 neu 3, drwy gyfeirio at ba un a oedd y wlad neu’r diriogaeth yn wlad neu’n diriogaeth nad yw’n esempt pan oedd P yno ddiwethaf (ac nid drwy gyfeirio at statws y wlad neu’r diriogaeth pan fo P yn cyrraedd Cymru).
(5)
Yn y rheoliad hwn, mae i “gofyniad i ynysu” yr ystyr a roddir gan reoliad 10(2) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol; ac mae cyfeiriadau at ddiwrnod olaf ynysiad P i’w dehongli yn unol â rheoliad 12 o’r Rheoliadau hynny.
Hepgor Liechtenstein o’r rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt5.
“Liechtenstein”.
Darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â rheoliad 56.
(1)
Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo person (“P”)—
(a)
yn cyrraedd Cymru am 4:00 a.m. ar 25 Hydref 2020 neu wedi hynny, a
(b)
wedi bod yn Liechtenstein ddiwethaf—
(i)
o fewn y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dod i ben â’r diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru, a
(ii)
cyn 4.00 a.m. ar 25 Hydref 2020.
(2)
Mae P, yn rhinwedd y ffaith iddo fod yn Liechtenstein, i’w drin at ddibenion rheoliadau 7(1) ac 8(1) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol fel pe bai wedi cyrraedd Cymru o wlad neu diriogaeth nad yw’n esempt, neu fel pe bai wedi cyrraedd ar ôl bod mewn gwlad neu diriogaeth o’r fath.