Legislation – The Health Protection (Coronavirus Restrictions) (No. 3) (Wales) Regulations 2020

New Search

Introduction

PART 1
Introduction

1 Title, application and coming into force

2 Expiry

PART 2
Restrictions on movement and gathering with others

3 Requirement to stay at home

4 Requirement not to gather with other people

5 Restriction on travelling into Wales

6 Restriction on attending school

7 Restriction on attending further education

8 Interpretation of regulations 6 and 7

9 Prohibition on organising certain unlicensed music events

9A Restrictions relating to persons who have recently been in Denmark

PART 3
Restrictions on businesses and services whose premises are ordinarily open to the public

CHAPTER 1 Overview

10 References to “premises” and overview

CHAPTER 2 Businesses and services whose premises must be closed

11 Closure of premises used by certain businesses and services

CHAPTER 3 Business and services whose premises must be closed but to which limited access may be allowed

12 Closure of bars and restaurants etc.

13 Closure of holiday accommodation

14 Closure of places of worship, community centres and crematoriums

CHAPTER 4 Business and services whose premises may be open

15 Open premises

CHAPTER 5 Mixed businesses

16 Mixed businesses

PART 4
Minimising risk of exposure to coronavirus

17 Requirement to take preventative measures on regulated premises to minimise risk

18 Requirement to wear face covering on public transport

19 Requirement to wear face covering in certain indoor public places

20 Guidance on minimising exposure

PART 5
Enforcement

21 Enforcement officers

22 Enforcement of requirement to take preventative measures

23 Compliance notices

24 Powers of removal and dispersal

25 Enforcement of face covering requirements

26 Enforcement: children

27 Power of entry

28 Enforcement: supplemental provision

PART 6
Offences and penalties

29 Offences and penalties

30 Offences committed by bodies corporate etc.

31 Fixed penalty notices

32 Prosecutions

PART 7
General

33 Interpretation

34 Revocation

35 Consequential amendment

SCHEDULES

SCHEDULE 1 Businesses and services whose premises are subject to restrictions or closure

SCHEDULE 2 Enforcement of requirement to take preventative measures on regulated premises

SCHEDULE 3 Form of sign to accompany premises improvement notice or premises closure notice

Signature

Explanatory note

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 3) (Cymru) 2020. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i’w gweld yn yr adran ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Os nad yw’r effeithiau hynny wedi’u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi’u rhestru ochr yn ochr â’r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen ‘mwy’ i agor y newidiadau a’r effeithiau sy’n berthnasol i’r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.


View outstanding changes

Changes and effects yet to be applied to Schedule 2:

ATODLEN 2Gorfodi gofyniad i gymryd mesurau ataliol mewn mangre reoleiddiedig

Rheoliad 22

Hysbysiad gwella mangre

1.

(1)

Caiff swyddog gorfodaeth ddyroddi hysbysiad (“hysbysiad gwella mangre”) i berson cyfrifol os yw’r swyddog yn ystyried—

(a)

nad yw’r person yn cydymffurfio â’r rhwymedigaethau a osodir ar y person gan reoliad 17(2), a

(b)

bod y mesurau a bennir yn yr hysbysiad yn angenrheidiol ac yn gymesur er mwyn sicrhau bod y person yn cydymffurfio â’r rhwymedigaethau hynny.

(2)

Rhaid i hysbysiad gwella mangre—

(a)

pennu’r fangre y mae’n ymwneud â hi;

(b)

pennu’r mesurau y mae’n ei gwneud yn ofynnol eu cymryd er mwyn sicrhau bod y person yn cydymffurfio â’r rhwymedigaethau a osodir gan reoliad 17(2);

(c)

pennu terfyn amser y mae rhaid cymryd y mesurau oddi mewn iddo (na chaniateir iddo fod yn llai nag 48 awr sy’n dechrau â’r amser y dyroddir yr hysbysiad);

(d)

rhoi manylion yr hawl i apelio a roddir gan baragraff 5.

(3)

Yn yr Atodlen hon, mae i “person cyfrifol” yr ystyr a roddir gan reoliad 17(1)(b).

Hysbysiad cau mangre

2.

(1)

Os yw naill ai amod 1 neu amod 2 wedi ei fodloni, caiff swyddog gorfodaeth ddyroddi hysbysiad (“hysbysiad cau mangre”) i berson cyfrifol sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r fangre, neu ran o’r fangre, gael ei chau.

(2)

Amod 1 yw—

(a)

bod hysbysiad gwella mangre wedi ei ddyroddi i’r person,

(b)

bod y swyddog gorfodaeth yn ystyried bod y person wedi methu â chymryd y mesurau a bennir yn yr hysbysiad gwella mangre o fewn y terfyn amser penodedig, ac

(c)

bod y swyddog yn ystyried bod cau’r fangre, neu ran o’r fangre, yn angenrheidiol ac yn gymesur at ddiben lleihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws.

(3)

Amod 2 yw bod y swyddog gorfodaeth yn ystyried—

(a)

nad yw’r person yn cydymffurfio â’r rhwymedigaethau a osodir ar y person gan reoliad 17(2), a

(b)

bod cau’r fangre, neu ran o’r fangre, (heb fod hysbysiad gwella mangre wedi ei ddyroddi) yn angenrheidiol ac yn gymesur at ddiben lleihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws.

(4)

Rhaid i hysbysiad cau mangre—

(a)

cynnwys disgrifiad o’r fangre sydd i’w chau,

(b)

pan fo hysbysiad gwella mangre wedi ei ddyroddi, nodi’r mesurau y mae’r swyddog gorfodaeth yn ystyried—

(i)

nad ydynt wedi eu cymryd, a

(ii)

y mae rhaid eu cymryd er mwyn sicrhau bod y person cyfrifol yn cydymffurfio â’r rhwymedigaethau a osodir gan reoliad 17(2),

(c)

pan na fo hysbysiad gwella mangre wedi ei ddyroddi, nodi’r rhesymau pam y mae’r swyddog gorfodaeth yn ystyried nad yw’r person yn cydymffurfio â’r rhwymedigaethau a osodir gan reoliad 17(2),

(d)

yn y naill achos neu’r llall, nodi’r rhesymau pam y mae’r swyddog gorfodaeth yn ystyried bod cau’r fangre yn angenrheidiol ac yn gymesur at ddiben lleihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws,

(e)

pennu’r cyfnod y mae’r hysbysiad yn cael effaith amdano, ac

(f)

rhoi manylion yr hawl i apelio a roddir gan baragraff 5.

(5)

Ni chaniateir i’r cyfnod a bennir o dan is-baragraff (4)(e) fod yn hwy na 336 o oriau (14 o ddiwrnodau) sy’n dechrau â’r amser y dyroddir yr hysbysiad.

(6)

Mae hysbysiad cau mangre yn cael effaith o’r amser y’i dyroddir neu o amser diweddarach a bennir yn yr hysbysiad.

(7)

Ni chaniateir dyroddi hysbysiad cau mangre mewn perthynas â mangre sy’n rhan o seilwaith hollbwysig (er enghraifft, mangre a ddefnyddir i gynhyrchu trydan neu gyflenwi dŵr) neu a ddefnyddir i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol.

Effaith hysbysiad cau mangre

3.

(1)

Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i hysbysiad cau mangre gymryd effaith, rhaid i’r person y’i dyroddir iddo sicrhau—

(a)

bod y fangre y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi yn cael ei chau, a

(b)

na chynhelir unrhyw fusnes neu na ddarperir unrhyw wasanaeth yn y fangre neu ohoni.

(2)

Ni chaiff unrhyw berson fynd i’r fangre, neu fod yn y fangre, sydd wedi ei chau o dan is-baragraff (1) heb esgus rhesymol.

(3)

At ddibenion is-baragraff (2), mae’r amgylchiadau pan fo gan berson esgus rhesymol yn cynnwys—

(a)

pan fo’r person yn byw yn y fangre;

(b)

pan fo’r person yn gwneud gwaith cynnal a chadw neu atgyweirio hanfodol;

(c)

pan fo’r person yn gwneud pethau sy’n angenrheidiol er mwyn sicrhau y gellir cydymffurfio â rheoliad 17(2) pan ganiateir i’r fangre fod ar agor;

(d)

pan fo’r person yn swyddog gorfodaeth neu berson sy’n cynorthwyo swyddog gorfodaeth;

(e)

pan fo’n angenrheidiol i’r person fod yn y fangre er mwyn osgoi anaf neu salwch neu ddianc rhag risg o niwed.

Terfynu hysbysiad gwella neu gau mangre

4.

(1)

Caiff swyddog gorfodaeth ddyroddi hysbysiad sy’n terfynu hysbysiad gwella mangre neu hysbysiad cau mangre os yw wedi ei fodloni—

(a)

bod y mesurau a bennir yn yr hysbysiad gwella mangre (os dyroddwyd un) wedi eu cymryd, neu

(b)

bod mesurau eraill wedi eu cymryd i sicrhau y gellir cydymffurfio â rheoliad 17(2) yn y fangre o dan sylw.

(2)

Mae hysbysiad gwella mangre neu hysbysiad cau mangre yn peidio â chael effaith ar yr amser y dyroddir hysbysiad o’r terfyniad.

Apelau

5.

(1)

Caiff person y dyroddir hysbysiad gwella mangre neu hysbysiad cau mangre iddo apelio i lys ynadon yn erbyn yr hysbysiad.

(2)

Rhaid i apêl gael ei gwneud—

(a)

drwy gŵyn am orchymyn, ac yn unol â Deddf Llysoedd Ynadon 1980, a

(b)

o fewn 7 niwrnod ar ôl i’r hysbysiad gael ei ddyroddi.

(3)

Ond caiff llys ynadon ganiatáu i apêl gael ei gwneud ar ôl diwedd y cyfnod a grybwyllir yn is-baragraff (2)(b) os yw wedi ei fodloni bod rheswm da dros fethu ag apelio cyn diwedd y cyfnod hwnnw (a thros unrhyw oedi cyn gwneud cais am ganiatâd i apelio y tu allan i amser).

(4)

Caiff llys ynadon atal dros dro effaith hysbysiad gwella mangre neu hysbysiad cau mangre wrth aros am y penderfyniad ar yr apêl.

(5)

Ar apêl yn erbyn hysbysiad gwella mangre neu hysbysiad cau mangre, caiff llys ynadon—

(a)

cadarnhau’r penderfyniad i ddyroddi’r hysbysiad;

(b)

cyfarwyddo bod yr hysbysiad i beidio â chael effaith;

(c)

addasu’r hysbysiad;

(d)

gwneud unrhyw orchymyn arall y mae’r llys yn ystyried ei fod yn briodol.

(6)

Os yw’r llys ynadon yn cyfarwyddo bod hysbysiad i beidio â chael effaith neu’n addasu hysbysiad, caiff orchymyn i’r awdurdod lleol ar gyfer yr ardal lle y mae’r fangre o dan sylw ddigolledu’r person sy’n gyfrifol am y fangre am golled a ddioddefir o ganlyniad i ddyroddi’r hysbysiad.

(7)

Caiff y naill parti neu’r llall ddwyn apêl yn erbyn penderfyniad llys ynadon ar apêl o dan yr adran hon i Lys y Goron.

(8)

Ar apêl i Lys y Goron, caiff y Llys—

(a)

cadarnhau, amrywio neu wrthdroi penderfyniad y llys ynadon;

(b)

anfon yr achos yn ôl i’r llys ynadon i’w waredu yn unol â chyfarwyddydau a roddir gan Lys y Goron.

Dyroddi hysbysiadau gwella a chau mangreoedd a therfyniadau

6.

(1)

Caiff hysbysiad gwella mangre, hysbysiad cau mangre neu derfyniad o’r naill neu’r llall o’r mathau hynny o hysbysiad ei ddyroddi i berson drwy roi copi ohono yn ysgrifenedig i’r person hwnnw.

(2)

Ond pan na fo’r person sy’n gyfrifol am y fangre y mae’r hysbysiad neu’r terfyniad yn ymwneud â hi yn y fangre pan yw’r hysbysiad i’w ddyroddi, mae’r hysbysiad i’w drin fel pe bai wedi ei ddyroddi i’r person hwnnw—

(a)

os rhoddir copi ohono i unrhyw berson arall yn y fangre yr ymddengys ei fod yn gyfrifol am unrhyw fusnes neu wasanaeth a gynhelir yn y fangre, neu

(b)

os nad oes unrhyw berson o’r fath yn y fangre pan yw’r hysbysiad i’w ddyroddi, os gosodir copi o’r hysbysiad mewn lle amlwg yn y fangre.

Rhoi cyhoeddusrwydd i hysbysiadau gwella a chau mangreoedd

7.

(1)

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo swyddog gorfodaeth wedi dyroddi hysbysiad gwella mangre neu hysbysiad cau mangre.

(2)

Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl dyroddi’r hysbysiad, rhaid i’r swyddog gorfodaeth—

(a)

arddangos copi o’r hysbysiad, ac arwydd ar y ffurf a nodir yn Atodlen 3, mewn man amlwg yn agos i bob mynedfa i’r fangre;

(b)

trefnu i’r hysbysiad gael ei gyhoeddi ar wefan yr awdurdod lleol ar gyfer yr ardal lle y mae’r fangre.

(3)

Rhaid i hysbysiad neu arwydd a arddangosir o dan is-baragraff (2)(a) fod o faint A4 o leiaf.

(4)

Rhaid i hysbysiad y mae’n ofynnol ei arddangos a’i gyhoeddi o dan is-baragraff (2) barhau i gael ei arddangos a’i gyhoeddi, a rhaid i arwydd y mae’n ofynnol ei arddangos o dan yr is-baragraff hwnnw barhau i gael ei arddangos, am gyhyd ag y mae’r hysbysiad yn cael effaith.

Darparu gwybodaeth etc.

8.

(1)

Caiff swyddog gorfodaeth, er mwyn hwyluso arfer pŵer a roddir i’r swyddog gan yr Atodlen hon—

(a)

ei wneud yn ofynnol i unrhyw berson roi unrhyw wybodaeth neu ateb unrhyw gwestiwn y mae’r swyddog yn ystyried ei bod neu ei fod yn berthnasol i arfer y pŵer;

(b)

ei gwneud yn ofynnol dangos unrhyw ddogfennau neu gofnodion electronig, edrych ar y dogfennau hynny neu’r cofnodion electronig hynny neu gymryd copïau ohonynt.

(2)

Ni chaniateir ei gwneud yn ofynnol o dan is-baragraff (1) i berson ddarparu dogfen, cofnod neu wybodaeth arall y gellid maentumio hawliad am fraint broffesiynol gyfreithiol mewn cysylltiad â hi neu ag ef mewn achos cyfreithiol.

(3)

Nid yw unrhyw wybodaeth neu ateb a roddir gan berson mewn ymateb i ofyniad a osodir o dan is-baragraff (1)(a) yn dderbyniadwy mewn tystiolaeth yn erbyn y person hwnnw, neu briod neu bartner sifil y person, mewn unrhyw achos ac eithrio achos o dan y Rheoliadau.