Legislation – The Health Protection (Coronavirus Restrictions) (No. 3) (Wales) Regulations 2020
Newidiadau i ddeddfwriaeth:
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 3) (Cymru) 2020. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.![]()
Changes to Legislation
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i’w gweld yn yr adran ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Os nad yw’r effeithiau hynny wedi’u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi’u rhestru ochr yn ochr â’r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen ‘mwy’ i agor y newidiadau a’r effeithiau sy’n berthnasol i’r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.
Changes and effects yet to be applied to Regulation 5:
- Regulations expired by S.I. 2020/1149 reg. 2(1)
RHAN 2Cyfyngiadau ar symud ac ymgynnull gydag eraill
Cyfyngiad ar deithio i Gymru5.
(1)
Ni chaiff unrhyw berson sy’n byw y tu allan i Gymru, heb esgus rhesymol, fynd i Gymru neu aros yng Nghymru.
(2)
Mae esgus rhesymol yn cynnwys yr angen i wneud y canlynol yng Nghymru—
(a)
cael—
(i)
bwyd a chyflenwadau meddygol ar gyfer y rheini ar yr un aelwyd (gan gynnwys anifeiliaid ar yr aelwyd) neu ar gyfer personau hyglwyf;
(ii)
cyflenwadau ar gyfer cynnal, cynnal a chadw a gweithrediad hanfodol yr aelwyd, neu aelwyd person hyglwyf;
(b)
cael arian oddi wrth unrhyw fusnes neu wasanaeth a restrir ym mharagraff 44 neu 45 o Ran 3 o Atodlen 1 neu adneuo arian gydag unrhyw fusnes neu wasanaeth o’r fath;
(c)
cael neu ddarparu cynhorthwy meddygol, gan gynnwys cael gafael ar unrhyw un neu ragor o’r gwasanaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff 47 o Ran 3 o Atodlen 1 neu gael gafael ar wasanaethau milfeddygol;
(d)
darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;
(e)
gweithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol pan na fo’n rhesymol ymarferol gwneud y gwaith neu ddarparu’r gwasanaeth o’r tu allan i Gymru;
(f)
pan fo’r person yn athletwr elît, hyfforddi ar gyfer digwyddiad chwaraeon penodedig, paratoi ato a chystadlu ynddo;
(g)
darparu hyfforddiant neu gymorth arall i athletwr elît mewn cysylltiad â digwyddiad chwaraeon penodedig;
(h)
gwasanaethu fel swyddog mewn digwyddiad chwaraeon penodedig neu fel arall ymwneud â’i redeg;
(i)
darparu neu gael cynhorthwy brys;
(j)
mynd i weinyddiad priodas neu ffurfiad partneriaeth sifil—
(i)
fel parti i’r briodas neu’r bartneriaeth sifil,
(ii)
os caiff ei wahodd i fynd iddi, neu
(iii)
fel gofalwr person sy’n mynd i’r briodas neu’r bartneriaeth sifil;
(k)
mynd i angladd—
(i)
fel person sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd,
(ii)
os caiff ei wahodd gan berson sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd, neu
(iii)
fel gofalwr person sy’n mynd i’r angladd;
(l)
cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu gymryd rhan mewn achos cyfreithiol;
(m)
cael gafael ar wasanaethau cyhoeddus neu gael y gwasanaethau hynny;
(n)
cael gafael ar wasanaethau addysgol, yn ddarostyngedig i reoliadau 6 a 7;
(o)
mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto;
(p)
symud cartref;
(q)
osgoi anaf neu salwch neu ddianc rhag risg o niwed;
(r)
teithio i gyrraedd man y tu allan i Gymru.
(3)
At ddibenion paragraff (1), nid yw’n esgus rhesymol i berson fynd i Gymru neu aros yng Nghymru i wneud unrhyw beth os byddai’n rhesymol ymarferol i’r person wneud y peth hwnnw y tu allan i Gymru.