Legislation – The Health Protection (Coronavirus Restrictions) (No. 3) (Wales) Regulations 2020
RHAN 5Gorfodi
Gorfodi gofynion gorchuddion wyneb25.
(1)
Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person (“P”) yn torri (neu ar fin torri) rheoliad 18(1), caiff y swyddog—
(a)
cyfarwyddo P i beidio â mynd i’r cerbyd sy’n darparu’r gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus o dan sylw;
(b)
symud P o’r cerbyd.
(2)
Pan fo gan—
(a)
gweithredwr gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus,
(b)
cyflogai i’r gweithredwr, neu
(c)
person sydd wedi ei awdurdodi gan y gweithredwr,
sail resymol dros amau bod person (“P”) ar fin torri rheoliad 18(1), caiff y gweithredwr, y cyflogai neu’r person awdurdodedig gyfarwyddo P i beidio â mynd i’r cerbyd sy’n darparu’r gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus o dan sylw.
(3)
Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person (“P”) yn torri (neu ar fin torri) rheoliad 19(1), caiff y swyddog—
(a)
cyfarwyddo P i beidio â mynd i’r fangre;
(b)
symud P o’r fangre.