Legislation – The Health Protection (Coronavirus Restrictions) (No. 3) (Wales) Regulations 2020
RHAN 4Lleihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws
Gofyniad i wisgo gorchudd wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus18.
(1)
Rhaid i berson (“P”) sy’n teithio fel teithiwr mewn cerbyd a ddefnyddir i ddarparu gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus wisgo gorchudd wyneb.
(2)
Ond nid yw hyn yn ofynnol—
(a)
pan fo esemptiad yn gymwys o dan baragraff (3);
(b)
pan fo gan P esgus rhesymol dros beidio â gwisgo gorchudd wyneb, ac o ran hynny gweler paragraff (4).
(3)
Mae esemptiad i’r gofyniad i wisgo gorchudd wyneb yn gymwys—
(a)
pan fo P yn blentyn o dan 11 oed;
(b)
mewn cerbyd sy’n darparu gwasanaeth cludiant i’r ysgol;
(c)
ar fferi—
(i)
pan fo’r rhan o’r fferi sydd ar agor i deithwyr yn yr awyr agored yn gyfan gwbl, neu
(ii)
pan ellir cynnal pellter o 2 fetr o leiaf rhwng personau ar y rhan o’r fferi sydd ar agor i deithwyr;
(d)
ar long fordeithio;
(e)
pan ddyrennir caban, man cysgu neu lety tebyg arall i P yn y cerbyd, ar unrhyw adeg pan yw P yn y llety hwnnw—
(i)
ar ei ben ei hunan, neu
(ii)
gydag aelodau o aelwyd P neu ofalwr i aelod o’r aelwyd yn unig;
(f)
pan—
(i)
caniateir i P, neu pan fo’n ofynnol fel arfer i P, fynd i gerbyd ac aros ynddo wrth ddefnyddio’r gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus,
(ii)
na fo’r cerbyd ei hunan yn cael ei ddefnyddio ar gyfer darparu gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus, a
(iii)
bo P yn aros yn y cerbyd hwnnw;
(g)
ar gerbyd awyr na chychwynnodd o fan yng Nghymru, nac sydd i lanio mewn man yng Nghymru;
(h)
ar lestr nad yw’n docio mewn porthladd yng Nghymru.
(4)
Mae’r amgylchiadau pan fo gan P esgus rhesymol dros beidio â gwisgo gorchudd wyneb yn cynnwys—
(a)
pan na fo P yn gallu rhoi gorchudd am ei wyneb, neu wisgo neu dynnu gorchudd wyneb, oherwydd salwch neu nam corfforol neu feddyliol, neu anabledd (o fewn yr ystyr a roddir i “disability” yn adran 6 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010);
(b)
pan fo P yn gorfod tynnu’r gorchudd wyneb er mwyn cyfathrebu â pherson arall sy’n cael anhawster i gyfathrebu (mewn perthynas â lleferydd, iaith neu fel arall);
(c)
pan fo P yn gorfod tynnu’r gorchudd wyneb er mwyn osgoi niwed neu anaf, neu’r risg o niwed neu anaf, i P ei hunan neu i eraill;
(d)
pan fo P yn teithio i osgoi anaf, neu i ddianc rhag risg o niwed, ac nad oes gan P orchudd wyneb;
(e)
pan fo P yn gorfod tynnu’r gorchudd wyneb i—
(i)
cymryd meddyginiaeth;
(ii)
bwyta neu yfed, os caniateir gwneud hyn yn y cerbyd a bod hynny’n rhesymol angenrheidiol (er enghraifft oherwydd hyd y daith);
(f)
pan ofynnir i P dynnu’r gorchudd wyneb gan—
(i)
swyddog gorfodaeth, neu
(ii)
gweithredwr y gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus, cyflogai i’r gweithredwr neu berson sydd wedi ei awdurdodi gan y gweithredwr.
(5)
Rhaid i weithredwr gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus y mae paragraff (1) yn gymwys iddo ddarparu gwybodaeth i deithwyr am y gofyniad i wisgo gorchuddion wyneb yn ei gerbydau.
(6)
At ddibenion y rheoliad hwn ystyr “gwasanaeth cludiant i’r ysgol” yw unrhyw gludiant nad yw ond yn cael ei ddarparu at ddiben—
(a)
cludo person i’r ysgol ac o’r ysgol neu’r man arall y mae’r person yn cael addysg neu hyfforddiant ynddo, neu
(b)
hwyluso fel arall bresenoldeb person mewn ysgol neu fan arall y mae’r person yn cael addysg neu hyfforddiant ynddo.