Legislation – The Health Protection (Coronavirus Restrictions) (No. 3) (Wales) Regulations 2020
RHAN 4Lleihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws
Gofyniad i gymryd mesurau ataliol mewn mangre reoleiddiedig i leihau risg17.
(1)
At ddibenion paragraff (2)—
(a)
ystyr “mangre reoleiddiedig” yw—
(i)
mangre y caniateir i’r cyhoedd gael mynediad iddi yn rhinwedd rheoliad 11(2), 12(2), 13(2) neu 14(2), (3) neu (4);
(ii)
mangre busnes neu wasanaeth a gaiff barhau i fod ar agor yn rhinwedd rheoliad 15;
(iii)
cerbyd a ddefnyddir i ddarparu gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus;
(iv)
mangre arall lle y mae gwaith yn cael ei wneud, a
(b)
ystyr y “person cyfrifol” yw—
(i)
mewn perthynas â mangre reoleiddiedig y cyfeirir ati yn is-baragraff (a)(i), (ii) neu (iii), y person sy’n gyfrifol am y fangre,
(ii)
mewn perthynas â mangre reoleiddiedig o’r math y cyfeirir ato yn is-baragraff (a)(iv), y person sy’n gyfrifol am y gwaith sy’n cael ei wneud yn y fangre.
(2)
At ddibenion lleihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws mewn mangre reoleiddiedig, neu ledaenu’r coronafeirws gan y rheini sydd wedi bod mewn mangre reoleiddiedig, rhaid i’r person cyfrifol—
(a)
cymryd pob mesur rhesymol i sicrhau—
(i)
y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng unrhyw bersonau yn y fangre (ac eithrio rhwng dau aelod o’r un aelwyd, neu rhwng gofalwr a’r person sy’n cael ei gynorthwyo gan y gofalwr);
(ii)
pan fo’n ofynnol i bersonau aros i fynd i’r fangre, y cynhelir pellter o 2 fetr rhyngddynt (ac eithrio rhwng dau aelod o’r un aelwyd, neu rhwng gofalwr a’r person sy’n cael ei gynorthwyo gan y gofalwr),
(b)
cymryd unrhyw fesurau rhesymol eraill at y diben hwnnw, er enghraifft mesurau sy’n cyfyngu ar ryngweithio agos wyneb yn wyneb ac yn cynnal hylendid megis—
(i)
newid trefn mangre gan gynnwys lleoliad dodrefn a gweithfannau;
(ii)
rheoli’r defnydd o fynedfeydd, tramwyfeydd, grisiau a lifftiau;
(iii)
rheoli’r defnydd o gyfleusterau a rennir megis toiledau a cheginau;
(iv)
rheoli’r defnydd o unrhyw ran arall o’r fangre neu fynediad iddi fel arall;
(v)
gosod rhwystrau neu sgriniau;
(vi)
darparu, neu’n ei gwneud yn ofynnol defnyddio, cyfarpar diogelu personol, ac
(c)
darparu gwybodaeth i’r rheini sy’n mynd i’r fangre neu’n gweithio ynddi ynglŷn â sut i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws.
(3)
Mae mesurau y gellir eu cymryd o dan baragraff (2) hefyd yn cynnwys—
(a)
peidio â gwneud gweithgareddau penodol;
(b)
cau rhan o’r fangre;
(c)
caniatáu a galluogi i berson sydd fel arfer yn gweithio yn y fangre ynysu am gyfnod penodedig oherwydd profi’n bositif am y coronafeirws neu am ei fod wedi dod i gysylltiad agos â rhywun sydd wedi profi’n bositif, pan ofynnwyd i’r person hwnnw wneud hynny gan—
(i)
Gweinidogion Cymru;
(ii)
swyddog iechyd cyhoeddus;
(iii)
swyddog i Fwrdd Iechyd lleol;
(iv)
person sydd wedi ei ddynodi gan awdurdod lleol at ddibenion cysylltu â phersonau a all fod wedi dod i gysylltiad â’r coronafeirws;
(d)
casglu gwybodaeth gyswllt oddi wrth bob person yn y fangre neu, mewn perthynas â phersonau o’r un aelwyd, oddi wrth un ohonynt, a’i chadw am 21 o ddiwrnodau at ddiben ei darparu i unrhyw un o’r canlynol, ar eu cais neu ar ei gais—
(i)
Gweinidogion Cymru,
(ii)
swyddog iechyd cyhoeddus,
(iii)
person sydd wedi ei ddynodi gan awdurdod lleol i brosesu gwybodaeth at ddibenion cysylltu â phersonau a all fod wedi dod i gysylltiad â’r coronafeirws.
(4)
Yn y rheoliad hwn—
(a)
ystyr “gwybodaeth gyswllt”, mewn perthynas â pherson yn y fangre, yw enw’r person a gwybodaeth sy’n ddigonol i allu cysylltu â’r person, i roi gwybod iddo y gall fod wedi dod i gysylltiad â’r coronafeirws yn y fangre (gan gynnwys rhif ffôn a’r dyddiad a’r amser yr oedd y person yn y fangre);