Legislation – The Health Protection (Coronavirus Restrictions) (No. 3) (Wales) Regulations 2020
RHAN 3Cyfyngiadau ar fusnesau a gwasanaethau y mae eu mangreoedd fel arfer ar agor i’r cyhoedd
PENNOD 3Busnesau a gwasanaethau y mae rhaid cau eu mangreoedd ond y caniateir mynediad cyfyngedig iddynt
Cau llety gwyliau13.
(1)
O ran person sy’n gyfrifol am gynnal busnes a restrir ym mharagraffau 26 i 29 o Atodlen 1—
(a)
rhaid iddo gau i aelodau’r cyhoedd unrhyw fangre a weithredir fel rhan o’r busnes, a
(b)
ni chaiff gynnal busnes yn y fangre honno ac eithrio yn unol â’r rheoliad hwn.
(2)
Nid yw paragraff (1) yn atal—
(a)
defnyddio mangre at unrhyw ddiben y mae Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol yn gofyn amdano neu’n ei awdurdodi;
(b)
darparu llety ar gyfer unrhyw bersonau sy’n aros yn y llety hwnnw pan ddaw’r Rheoliadau hyn i rym ac—
(i)
nad ydynt yn gallu dychwelyd i’w prif breswylfa, neu
(ii)
sy’n defnyddio’r llety fel eu prif breswylfa;
(c)
defnyddio mangre i gynnal y busnes drwy ddarparu gwybodaeth neu wasanaethau eraill—
(i)
drwy wefan, neu fel arall drwy gyfathrebiad ar lein,
(ii)
dros y ffôn, gan gynnwys ymholiadau drwy neges destun, neu
(iii)
drwy’r post;
(d)
gwneud gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio neu waith arall i sicrhau bod mangre yn addas i’w defnyddio pan nad yw paragraff (1) yn gymwys mwyach i’r fangre.