Legislation – The Health Protection (Coronavirus Restrictions) (No. 3) (Wales) Regulations 2020
RHAN 3Cyfyngiadau ar fusnesau a gwasanaethau y mae eu mangreoedd fel arfer ar agor i’r cyhoedd
PENNOD 3Busnesau a gwasanaethau y mae rhaid cau eu mangreoedd ond y caniateir mynediad cyfyngedig iddynt
Cau bariau a bwytai etc.12.
(1)
O ran person sy’n gyfrifol am gynnal busnes a restrir ym mharagraffau 22 i 25 o Atodlen 1—
(a)
rhaid iddo gau i aelodau’r cyhoedd unrhyw fangre a weithredir fel rhan o’r busnes, a
(b)
ni chaiff gynnal busnes yn y fangre honno ac eithrio yn unol â’r rheoliad hwn.
(2)
Nid yw paragraff (1) yn atal—
(a)
defnyddio mangre ar gyfer—
(i)
gwerthu bwyd a diod i’w fwyta neu i’w hyfed oddi ar y fangre, neu
(ii)
gwasanaethau sy’n darparu bwyd neu ddiod i bobl ddigartref;
(b)
darparu gwasanaeth ystafell mewn gwesty neu lety arall (pan fo’r gwesty neu’r llety arall yn parhau i weithredu yn unol â’r eithriadau cyfyngedig a ganiateir gan reoliad 13);
(c)
ffreutur yn y gweithle rhag bod ar agor pan na fo dewis ymarferol arall i staff yn y gweithle hwnnw gael bwyd;
(d)
gwneud gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio neu waith arall i sicrhau bod mangre yn addas i’w defnyddio pan na fydd paragraff (1) yn gymwys i’r fangre mwyach.
(3)
At ddibenion paragraff (1), mae ardal o dan do sy’n gyfagos i fangre’r busnes lle y mae seddau yn cael eu rhoi ar gael i gwsmeriaid y busnes (pa un ai gan y busnes ai peidio) i’w thrin fel rhan o fangre’r busnes hwnnw.