Legislation – The Coronavirus Act 2020 (Residential Tenancies: Protection from Eviction) (Wales) Regulations 2020
RHAN 3CYFNODAU HYSBYSU: DIWYGIO ADDASIADAU A WNAED GAN ATODLEN 29
TENANTIAETHAU DIOGEL
Atal darpariaeth sy’n ymwneud ag adran 83 o Ddeddf Tai 1985 dros dro pan roddir hysbysiad ar seiliau ymddygiad gwrthgymdeithasol7.
Mae paragraff 3 o Atodlen 29 (estyn cyfnodau hysbysu mewn perthynas â thenantiaethau diogel) wedi ei atal dros dro o ran Cymru at ddibenion hysbysiad o dan adran 83 o Ddeddf Tai 19853 sy’n pennu Sail 2 yn Atodlen 2 i’r Ddeddf honno (sail yn ôl disgresiwn ar gyfer ymddygiad gwrthgymdeithasol), pa un ai gyda seiliau eraill neb hebddynt.