Legislation – The Health Protection (Coronavirus, International Travel) (Wales) (Amendment) (No. 12) Regulations 2020

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 12) 2020. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i’w gweld yn yr adran ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Os nad yw’r effeithiau hynny wedi’u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi’u rhestru ochr yn ochr â’r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen ‘mwy’ i agor y newidiadau a’r effeithiau sy’n berthnasol i’r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.


View outstanding changes

Changes and effects yet to be applied to Part 3:

RHAN 3Diwygiadau Amrywiol

Diwygiadau i reoliad 10 (eithriadau i’r gofynion ynysu)4.

(1)

Mae rheoliad 10 o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2)

Ar ôl paragraff (4)(jd) mewnosoder—

“(jh)

pan fo P yn athletwr elît sydd wedi teithio i’r Deyrnas Unedig i gael un neu ragor o archwiliadau meddygol, i fynd i’r archwiliad hwnnw, ar yr amod—

(i)

bod yr archwiliad meddygol at ddiben busnes sy’n penderfynu pa un ai i gynnig contract i P i gymryd rhan mewn cystadleuaeth elît ar ran y busnes hwnnw,

(ii)

bod gan P gadarnhad ysgrifenedig yn ei feddiant oddi wrth y busnes hwnnw o’r trefniadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (i), a

(iii)

bod y trefniadau hynny wedi eu gwneud cyn i P gyrraedd y Deyrnas Unedig;

(ji)

pan fo P yn berson sy’n teithio gydag athletwr elît at ddiben is-baragraff (jh), i ddarparu cynorthwy a chymorth i’r athletwr elît hwnnw mewn cysylltiad ag archwiliad meddygol o’r fath;

(jj)

pan fo P yn athletwr elît sydd wedi contractio â busnes i gymryd rhan mewn cystadleuaeth elît, i gymryd rhan mewn cystadleuaeth o’r fath neu ymgymryd â hyfforddiant neu weithgareddau eraill sy’n gysylltiedig â’r gystadleuaeth elît honno;”;

(3)

Ym mharagraff (8), yn y man priodol mewnosoder—

“mae i “athletwr elît” (“elite athlete”) yr un ystyr ag ym mharagraff 38(2)(a) o Atodlen 2”;

“mae i “cystadleuaeth elît” (“elite competition”) yr un ystyr ag ym mharagraff 38(2)(b) o Atodlen 2”.

Annotations:
Commencement Information

I1Rhl. 4 mewn grym ar 26.9.2020 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Diwygio Atodlen 2 (personau esempt)5.

(1)

Yn Atodlen 2 (personau esempt) i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, mae paragraff 38 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2)

Yn is-baragraff (1)(b), yn lle “darparu cymorth i athletwr elît mewn cystadleuaeth elît dramor neu a fu fel arall yn ei hyfforddi” rhodder “hyfforddi athletwr elît mewn cystadleuaeth elît dramor neu a fu fel arall yn darparu cymorth iddo”.

(3)

Ar ôl is-baragraff (1)(c) mewnosoder—

“(d)

sy’n athletwr elît a fu’n mynychu rhaglen hyfforddi dramor at ddiben hyfforddi neu baratoi i gymryd rhan mewn cystadleuaeth elît,

(e)

a fu’n darparu hyfforddiant neu gymorth arall i athletwr elît ar raglen hyfforddi dramor at ddiben hyfforddi neu baratoi’r athletwr elît hwnnw i gymryd rhan mewn cystadleuaeth elît,”.

(4)

Yn y geiriau ar ôl is-baragraff (1)(e), ar ôl “gystadleuaeth elît dramor” mewnosoder “neu’r rhaglen hyfforddi dramor”.

Annotations:
Commencement Information

I2Rhl. 5 mewn grym ar 26.9.2020 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Ychwanegiadau at y rhestr o ddigwyddiadau chwaraeon penodedig yn Atodlen 4 (digwyddiadau chwaraeon penodedig)6.

(1)

Mae Atodlen 4 (digwyddiadau chwaraeon penodedig) i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)

Ym mharagraff 3, ar y diwedd mewnosoder—

“(i)

Y Gorfforaeth Ddartiau Broffesiynol – Camp Lawn Ddartiau Boylesports;

(j)

Y Gorfforaeth Ddartiau Broffesiynol – Rowndiau Terfynol Pencampwriaeth Chwaraewyr Ladbrokes;

(k)

Y Gorfforaeth Ddartiau Broffesiynol – Pencampwriaeth Ddartiau y Byd William Hill;

(l)

Y Gorfforaeth Ddartiau Broffesiynol – Grand Prix y Byd Boylesports.”

(3)

Ym mharagraff 5, ar y diwedd mewnosoder—

“(o)

Taith Ewrop – Pencampwriaeth yr Alban.”

(4)

Ym mharagraff 7, ar y diwedd mewnosoder—

“(c)

Motorsport UK – Pencampwriaethau Ceir Gwyllt Prydain;

(d)

Motorsport UK – Pencampwriaethau Rali Groes Prydain;

(e)

Pencampwriaethau Ceir Teithio Prydain;

(f)

Pencampwriaethau Rali Groes Prydain;

(g)

Pencampwriaeth GT Prydain a Phencampwriaeth BRDC F3;

(h)

Wythnos Gyflymder Goodwood;

(i)

Gŵyl Formula Ford Brands Hatch.”

(5)

Ym mharagraff 10, ar y diwedd mewnosoder—

“(g)

Taith Snwcer y Byd – Rowndiau Rhagbrofol Pencampwriaeth Meistri yr Almaen;

(h)

Taith Snwcer y Byd – Pencampwriaeth Agored Gogledd Iwerddon;

(i)

Taith Snwcer y Byd – Pencampwriaethau’r DU;

(j)

Taith Snwcer y Byd – Pencampwriaeth Agored yr Alban;

(k)

Taith Snwcer y Byd – Grand Prix y Byd.”

(6)

Ym mharagraff 14, ar y diwedd mewnosoder—

“(h)

Pencampwriaeth Bocsio Ryngwladol – Queensberry Promotions.”

(7)

Ar y diwedd mewnosoder—

“20.

Pêl-rwyd – England Roses v Jamaica Sunshine Girls – Cyfres Pêl-rwyd Ryngwladol Vitality.”

Annotations:
Commencement Information

I3Rhl. 6 mewn grym ar 26.9.2020 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)