Legislation – The Health Protection (Coronavirus Restrictions) (Functions of Local Authorities etc.) (Wales) Regulations 2020

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) 2020, Adran 16. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi’u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler ‘Cwestiynau Cyffredin’ am fanylion ynglŷn â’r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

RHAN 4Gorfodi

Camau gorfodi16.

(1)

Caiff swyddog gorfodaeth roi hysbysiad cydymffurfio i berson os oes gan y swyddog sail resymol dros amau bod y person—

(a)

yn gweithredu yn groes i gyfarwyddyd mangre, cyfarwyddyd digwyddiad neu gyfarwyddyd man cyhoeddus, neu

(b)

yn methu, neu wedi methu, â chymryd camau sy’n ofynnol o dan reoliad 5(6), 6(5) neu F17(8) .

(2)

Caiff hysbysiad cydymffurfio bennu mesurau y mae rhaid i’r person y’i rhoddir iddo eu cymryd cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol er mwyn—

(a)

atal y person hwnnw rhag parhau i weithredu yn groes i’r cyfarwyddyd, neu

(b)

cywiro’r methiant i gymryd camau.

(3)

Pan fo gan gwnstabl sail resymol dros amau bod person mewn mangre yn groes i gyfarwyddyd mangre, caiff y cwnstabl—

(a)

cyfarwyddo’r person i adael y fangre;

(b)

symud y person o’r fangre.

(4)

Pan fo gan gwnstabl sail resymol dros amau bod digwyddiad yn cael ei gynnal yn groes i gyfarwyddyd digwyddiad, caiff y cwnstabl—

(a)

cyfarwyddo bod digwyddiad yn dod i ben;

(b)

cyfarwyddo person i adael y digwyddiad;

(c)

symud person o’r digwyddiad.

(5)

Pan fo gan gwnstabl sail resymol dros amau bod person mewn man cyhoeddus F2sy’n gosod gwaharddiad, gofyniad neu gyfyngiad mewn perthynas â mynediad i’r man yn groes i gyfarwyddyd man cyhoeddus, caiff y cwnstabl—

(a)

cyfarwyddo’r person i adael y man;

(b)

symud y person o’r man.

F3(5A)

Pan fo gan gwnstabl sail resymol dros amau bod person mewn man cyhoeddus yn gweithredu yn groes i gyfarwyddyd man cyhoeddus sy’n gosod gwaharddiad, gofyniad neu gyfyngiad mewn perthynas â chynnal gweithgaredd yn y man, caiff y cwnstabl gymryd unrhyw gamau y mae’r cwnstabl yn ystyried eu bod yn angenrheidiol er mwyn atal y person rhag parhau i weithredu yn groes i’r cyfarwyddyd (gan gynnwys symud y person o’r man).

(6)

Caiff cwnstabl—

(a)

wrth arfer y pŵer ym mharagraff (3), (4) F4, (5) neu (5A) , gyfarwyddo person i ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau y mae’r cwnstabl yn ystyried eu bod yn angenrheidiol;

(b)

defnyddio grym rhesymol wrth arfer y pŵer ym mharagraff (3)(b), (4)(c) F5, (5)(b) neu (5A) .

(7)

Pan fo gan gwnstabl sail resymol dros amau bod person y cyfeirir ato ym mharagraff (3), (4) F6, (5) neu (5A) yn blentyn (“P”) gydag unigolyn (“U”) a chanddo gyfrifoldeb dros P—

(a)

caiff y cwnstabl gyfarwyddo U i sicrhau bod C yn gadael y fangre, y digwyddiad neu’r man cyhoeddus, yn ôl y digwydd, a

(b)

rhaid i U, i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, sicrhau bod P yn cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd neu gyfarwyddiad a roddir gan y cwnstabl i P.

(8)

Os oes gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person yn torri (neu ar fin torri) rheoliad 14(4), caiff y swyddog symud y person o lwybr cyhoeddus neu dir mynediad (o fewn yr ystyr a roddir gan reoliad 14(7)) sydd ar gau (neu sy’n cael ei gau) yn rhinwedd rheoliad 14(1), a chaiff ddefnyddio grym rhesymol i wneud hynny.

(9)

Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod y person y cyfeirir ato ym mharagraff (8) yn blentyn (“P”) gydag unigolyn (“U”) a chanddo gyfrifoldeb dros P—

(a)

caiff y swyddog gyfarwyddo U i sicrhau bod C yn gadael y man cyhoeddus neu’r tir mynediad, a

(b)

rhaid i U, i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, sicrhau bod P yn cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd neu gyfarwyddiad a roddir gan y swyddog i C.

(10)

At ddibenion paragraffau (7) a (9), mae gan U gyfrifoldeb dros blentyn os oes gan U—

(a)

gwarchodaeth neu ofal am y plentyn am y tro, neu

(b)

cyfrifoldeb rhiant dros y plentyn.

(11)

Caiff swyddog gorfodaeth gymryd camau gorfodi eraill i hwyluso arfer pŵer a roddir i’r swyddog gan y rheoliad hwn neu reoliad 17.

(12)

Ni chaiff swyddog gorfodaeth ond arfer pŵer dan y rheoliad hwn neu reoliad 17 os yw’r swyddog yn ystyried ei bod yn angenrheidiol ac yn gymesur gwneud hynny.

(13)

Mae cyfeiriadau yn y rheoliad hwn at “cwnstabl” i’w darllen fel pe baent yn cynnwys swyddog cymorth cymunedol yr heddlu.