Legislation – The Planning Applications (Temporary Modifications and Disapplication) (No. 2) (Wales) (Coronavirus) Order 2020

2020 Rhif 1004 (Cy. 223)
Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru

Gorchymyn Ceisiadau Cynllunio (Addasiadau a Datgymhwyso Dros Dro) (Rhif 2) (Cymru) (Coronafeirws) 2020

Gwnaed
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 61Z(8) a (9), 62(11), 62R a 333(4B) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 19901, a thrwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 59, 62(1) a (2), 71(1), (2)(a) a (2A) a 333(7) o’r Ddeddf honno2 sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy3 (fel y’u cymhwysir yn achos adran 62(1) gydag addasiadau gan Orchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Cymhwyso Deddfiadau) (Cymru) 20164), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
1

1990 p. 8. Mewnosodwyd adran 61Z gan adran 17(2) o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 (dccc 4) (“Deddf 2015”). Mewnosodwyd adran 62(11) gan adran 17(3) o Ddeddf 2015 (gweler hefyd adran 59(4) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (“Deddf 1990”) (y cyfeirir ati yn y troednodyn nesaf) sy’n darparu mai ystyr gorchymyn datblygu mewn perthynas â Chymru yw gorchymyn datblygu a wneir gan Weinidogion Cymru). Mewnosodwyd adran 62R gan adran 25 o Ddeddf 2015. Amnewidiwyd adran 333(4B) gan adran 55 o Ddeddf 2015 a pharagraff 6(3) o Atodlen 7 iddi. Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.

2

Diwygiwyd adran 59(2) gan adran 1 o Ddeddf Twf a Seilwaith 2013 (p. 27) a pharagraff 4 o Atodlen 1 iddi, a chan adran 27 o Ddeddf 2015 a pharagraff 3 o Atodlen 4 iddi. Mewnosodwyd adran 59(4) gan adran 55 o Ddeddf 2015 a pharagraff 5 o Atodlen 7 iddi. Gweler adran 71(4) am ystyr “prescribed”. Diwygiwyd adran 71 gan adran 16(2) o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 (p. 34). Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.

3

Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol, i’r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672); gweler y cofnod yn Atodlen 1 ar gyfer Deddf 1990. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraffau 30 a 32 o Atodlen 11 iddi.